Cynorthwyydd Llogi Masnachol Achlysurol

Cyflog
£13.99 yr awr
Location
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Oriau
Other
Closing date
22.08.2024

Postiwyd gan: AmgueddfaCymru1

Dyddiad: 26 July 2024

Eich gwaith…

  • Helpu’r Tîm Llogi Masnachol i gynnig profiad o’r safon uchaf i gleientiaid
  • Cynnig gwasanaeth llogi lleoliad ardderchog ar draws un ai Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru neu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Rhoi gofal cwsmer o’r safon uchaf i’n gwesteion, drwy roi gwybodaeth a’u cyfeirio o gwmpas y safle.
  • Helpu gyda gosod a thynnu offer, megis gosod byrddau, addurno’r safle a symud dodrefn.
  • Sicrhau iechyd a diogelwch ein hymwelwyr, staff a chontractwyr.
  • Sicrhau diogelwch ein casgliadau drwy oruchwylio orielau ac adeiladau hanesyddol.
  • Tywys trefnwyr cleientiaid, contractwyr a chysylltu â thimau arlwyo
  • Helpu’r tîm i sicrhau bod y lleoliad yn cael ei gadw’n lân a diogel
  • Helpu gyda llif ymwelwyr, gwesteion a chontractwyr.
  • Casglu adborth gan ymwelwyr, ac annog rhoddion yn ôl cyfarwyddyd

Eich nod…

  • Byddwch yn cyfrannu at gynnal digwyddiadau creadigol ac arloesol o’r safon uchaf, yn gyhoeddus a phreifat
  • Helpu’r tîm i gynnal digwyddiadau sy’n creu incwm, er mwyn cefnogi gwaith Amgueddfa Cymru
  • Helpu i gynnal digwyddiadau creadigol ac arloesol yn ein hamgueddfeydd.
  • Sicrhau bod gwesteion, contractwyr a chyfranwyr yn mwynhau eu profiad.
  • Croesawu, cynorthwyo a chefnogi ymwelwyr, contractwyr a chyfranwyr i sicrhau eu diogelwch a’u lles.
  • Bydd eich presenoldeb yn diogelu ein hymwelwyr, casgliadau ac eiddo’r Amgueddfa.

Sut i gyrraedd y nod...

  • Croesawu pob ymwelydd a bod yn barod i ateb eu cwestiynau.
  • Bod yn ddigynnwrf, yn gwrtais ac yn broffesiynol - hyd yn oed mewn sefyllfaoedd anodd ac o dan bwysau.
  • Dysgu a rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth o’n casgliadau, a dod â nhw yn fyw er mwyn gwella profiad ymwelwyr yn ein digwyddiadau.
  • Gweithio fel rhan o dîm i ddarparu presenoldeb diogelwch effeithiol.
  • Sicrhau bod ymwelwyr, contractwyr a staff yn cadw at bolisïau iechyd a diogelwch
  • Gweithio oriau hyblyg, gan gynnwys nosweithiau hwyr, penwythnosau a gwyliau banc.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant
  • Trin pawb gydag urddas a pharch, waeth beth fo’u hil, crefydd, rhyw, rhywioldeb, cenedl, oedran, gallu neu iaith.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event