Dyluniwch osodiad ar gyfer Nadolig ym Mharc Bute 2024

Mae Caerdydd Creadigol yn falch iawn o weithio gydag From the Fields i hyrwyddo dau gyfle comisiynu ar gyfer llwybr golau Nadolig Parc Bute. Rhan o gynllun Ignite Cymru, a gefnogir gan Digwyddiadau Cymru.

Dysgwch fwy am y cyfleoedd hyn a sut i wneud cais:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 26 July 2024

Christmas at Bute Park installation

Beth yw'r Nadolig ym Mharc Bute?

I’r rhai ohonoch sydd eto i brofi’r llwybr golau sydd wedi gwerthu fwyaf yn y DU y tu allan i Lundain, mae Nadolig ym Mharc Bute yn osodiad Nadoligaidd blynyddol yng nghanol Caerdydd. Gyda dros 100,000 o ymwelwyr pob blwyddyn, dyma lwybr golau Nadoligaidd mwyaf Cymru, gan ganiatáu i gynulleidfaoedd deithio trwy amrywiaeth ysblennydd o oleuadau, cerfluniau ac effeithiau arbennig.

Cyflwynir y Nadolig ym Mharc Bute gan From the Fields, asiantaeth sy’n trefnu profiadau Nadoligaidd cyfoes ar draws dinasoedd y DU. Nod pob un o’u llwybrau golau yw i drochi cynulleidfaoedd mewn profiad clyweledol a all fod yn chwareus ac yn hwyl, neu’n feiddgar ac yn drawiadol.

Cyfle i ddylunio gosodiad ar gyfer llwybr golau Caerdydd eleni

Eleni, mae From the Fields wedi cyhoeddi dau gomisiwn dylunio ar gyfer artistiaid sy’n byw yng Nghymru, un ar gyfer myfyrwyr blwyddyn olaf/graddedigion diweddar ac un ar gyfer artistiaid sy’n dod i’r amlwg. Mae hyn yn rhan o gynllun Ignite Cymru, a gefnogir gan Digwyddiadau Cymru.

Dywedodd Cynhyrchydd Creadigol From the Fields, Lizzie Rayner:

Rydym mor gyffrous i allu cynnig y ddau gyfle gwych hyn fel rhan o gynllun Ignite Cymru. Mae hi mor bwysig i ni fod artistiaid Cymreig yn cael eu cynrychioli a’u hyrwyddo o fewn digwyddiadau’r gaeaf. Mae gan Gymru gymaint o dalent greadigol anhygoel, edrychwn ymlaen at allu tynnu sylw ato ar lwybr golau mwyaf Cymru lle’r ydym yn gobeithio croesawu dros 100,000 o ymwelwyr am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

An image of an installation at Christmas at Bute Park

Comisiwn myfyriwr blwyddyn olaf/graddedig diweddar

Bydd y comisiwn hwn yn rhoi cyfle i fyfyriwr blwyddyn olaf neu rhai sydd wedi graddio yn ddiweddar (wedi graddio yn 2022, 2023 neu 2024) greu eu gosodiad eu hunain ar gyfer y Nadolig ym Mharc Bute.

Gyda chefnogaeth tîm rheoli a chynhyrchu creadigol From the Fields, byddant yn cael cynnig y cyfle i brofi sut brofiad yw creu gosodiad ar gyfer llwybr golau a byddent wedyn yn gallu ei gymryd a’i arddangos mewn llwybrau golau eraill yn y dyfodol.

Y gyllideb ar gyfer y prosiect hwn yw £7,575.

Rhagor am y comisiwn hwn, cymhwysedd a sut i gyflwyno cynnig.

Comisiwn artistiaid newydd

Yn agored i dalent sy’n dod i’r amlwg (waeth beth fo’u hoedran), mae From the Fields yn chwilio am artist neu ddylunydd i greu darn y gellir ei symud ymlaen i’w ddangos mewn llwybrau golau neu ddigwyddiadau eraill ar ôl y Nadolig ym Mharc Bute. Gall y tîm creadigol hwyluso cysylltiadau â’r artist i annog hyn i ddigwydd.

Y gyllideb ar gyfer y prosiect hwn yw £10,000.

Rhagor am y comisiwn hwn, cymhwysedd a sut i gyflwyno cynnig.

Dywedodd Pennaeth Caerdydd Creadigol, Jess Mahoney:

Mae Caerdydd Creadigol wrth ei fodd i fod yn gweithio gydag From the Fields ac yn cefnogi’r comisiynau newydd cyffrous hyn a fydd yn cysylltu rhai o dalentau creadigol newydd y ddinas yn ystyrlon â thîm y Nadolig ym Mharc Bute i ennill sgiliau ymarferol a phrofiad mewn creu celf gyhoeddus. Gwyddom fod Caerdydd yn llawn syniadau creadigol arloesol ac ni allwn aros i weld pa ymatebion gwych a gyflwynir.

Mwy o wybodaeth

Gellid defnyddio dau leoliad posibl ym Mharc Bute ar gyfer y gosodiadau hyn, mae'r ddau tua 25m o lwybr llawr caled gyda choed bob ochr i'r llwybr.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y comisiynau hyn, lawrlwythwch y pecynnau briffio – comisiwn myfyriwr/graddedig diweddar a chomisiwn artistiaid newydd – neu e-bostiwch Lizzie@fromthefields.co.uk

Y dyddiad cau ar gyfer y ddau gyfle yw dydd Gwener 23 Awst 17:00.

Christmas at Bute Park installation

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event