Beth yw'r Nadolig ym Mharc Bute?
I’r rhai ohonoch sydd eto i brofi’r llwybr golau sydd wedi gwerthu fwyaf yn y DU y tu allan i Lundain, mae Nadolig ym Mharc Bute yn osodiad Nadoligaidd blynyddol yng nghanol Caerdydd. Gyda dros 100,000 o ymwelwyr pob blwyddyn, dyma lwybr golau Nadoligaidd mwyaf Cymru, gan ganiatáu i gynulleidfaoedd deithio trwy amrywiaeth ysblennydd o oleuadau, cerfluniau ac effeithiau arbennig.
Cyflwynir y Nadolig ym Mharc Bute gan From the Fields, asiantaeth sy’n trefnu profiadau Nadoligaidd cyfoes ar draws dinasoedd y DU. Nod pob un o’u llwybrau golau yw i drochi cynulleidfaoedd mewn profiad clyweledol a all fod yn chwareus ac yn hwyl, neu’n feiddgar ac yn drawiadol.
Cyfle i ddylunio gosodiad ar gyfer llwybr golau Caerdydd eleni
Eleni, mae From the Fields wedi cyhoeddi dau gomisiwn dylunio ar gyfer artistiaid sy’n byw yng Nghymru. Mae hyn yn rhan o gynllun Ignite Cymru, a gefnogir gan Digwyddiadau Cymru.
Dywedodd Cynhyrchydd Creadigol From the Fields, Lizzie Rayner:
Rydym yn falch o lansio cyfle cyffrous newydd drwy gynllun a ariennir gan Ignite Cymru, a gynlluniwyd i ddyrchafu pobl greadigol Cymru yn y diwydiant digwyddiadau. Mae hyrwyddo talent gartref yn ystod tymor y gaeaf yn rhan graidd o'n cenhadaeth. Gyda chymaint o dalent greadigol ledled Cymru, mae'n wych dod â'r egni hwnnw'n fyw. Wrth i ni baratoi i ddychwelyd am y bumed flwyddyn, rydym unwaith eto'n disgwyl i dros 100,000 o ymwelwyr ymuno â ni i ddathlu cyfoeth creadigrwydd Cymru ar lwybr goleuadau mwyaf Cymru.
Manylion y comisiwn
Mae From The Fields yn cynnig cyfle i ddylunwyr / artistiaid neu grŵp o artistiaid greu eu gosodiad eu hunain ar gyfer y Nadolig ym Mharc Bute 2025. Gyda chefnogaeth eu tîm rheoli creadigol a chynhyrchu, bydd yr artistiaid yn cael cynnig y cyfle i brofi creu gosodiad ar gyfer llwybr golau trochol y byddent wedyn yn gallu ei gymryd a'i arddangos mewn llwybrau golau eraill neu ddigwyddiadau tebyg.
Bydd y prosiect yn cynnig y cyfleoedd canlynol i gefnogi datblygiad unrhyw waith:
- Cyfarfod â'r tîm Creadigol y tu ôl i'r Nadolig ym Mharc Bute
- Taith o amgylch y safle
- Crynodeb creadigol
- Cefnogaeth ac arweiniad
- Gwahoddiad i gael rhagolwg o'r gosodiadau cyn agor y safle
- Cyllideb y prosiect hwn yw £10,000.
Dysgwch fwy a lawrlwythwch y briff.
Dywedodd Rheolwr Caerdydd Creadigol, Carys Bradley-Roberts:
Mae Caerdydd Creadigol wrth ei fodd yn gweithio gyda From the Fields eto eleni i gefnogi'r cyfle comisiwn cyffrous hwn. Mae hwn yn gyfle gwych i ddylunydd, artist neu grŵp ennill sgiliau ymarferol a phrofiad mewn celf gyhoeddus trochol gyda chefnogaeth tîm profiadol Nadolig ym Mharc Bute. Cynhyrchodd yr artistiaid a ddewiswyd fel rhan o'r prosiect hwn yn 2024 ddau ddyluniad gwych a gallwn ni ddim aros i weld beth sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer llwybr 2025!
Mwy o wybodaeth
Mae dau leoliad posibl o fewn Parc Bute y gellid eu defnyddio ar gyfer gosodiad, y cyntaf yw sylfeini'r hen Briordy. Gan fod hon yn ardal galed, byddai angen i ni edrych i bwysoli unrhyw osodiadau.
Yr ail ardal yw clwstwr o goed i'r chwith o'r llwybr. Efallai y byddwch chi'n edrych i ddefnyddio'r gofod uwchben, yr ardaloedd glaswelltog, ymylon y llwybr neu'r coed eu hunain.
Rydym yn argymell yn gryf eich bod chi'n edrych ar y gofod yn bersonol. Dyma'r lleoliadau what3 word ar gyfer yr ardaloedd arfaethedig:
Lleoliad 1: boat.learn.noisy
Lleoliad 2: baw.stole.spend
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch am y comisiynau hyn, lawrlwythwch y pecyn briffio – neu e-bostiwch Lizzie.Rayner@fromthefields.co.uk
Y dyddiad cau ar gyfer y ddau gyfle yw 15 Awst 17:00.