Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Rheolwr Dyletswydd Achlysurol
Cyflog: £12.50 yr awr
Dyddiad Cau: 27 Mawrth 2024
Dyddiad Cyfweld: Wythnos yn ddechrau 1 Ebrill 2024
Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae'r Tîm Profiad Cwsmer yn rhan o'r Adran Gweithrediadau Busnes ac yn gyfrifol am gyflawniad gweithredol o ddydd i ddydd yr holl weithgareddau sy'n ymwneud â'r cyhoedd.
Yn cynnwys cymysgedd o staff, gwirfoddolwyr a gweithwyr achlysurol, rydym yn sicrhau ein bod yn darparu profiad sy'n tanio dychymyg ac yn cyfrannu at werthoedd a nodau'r sefydliad. Mae gwasanaeth cwsmeriaid wrth wraidd yr hyn a wnawn yn ogystal â gweithio gyda thimau eraill i wneud y mwyaf o gyfleoedd gwariant eilaidd a sicrhau diogelwch yr holl gwsmeriaid ac aelodau tîm ar y safle.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
Bydd Rheolwr Dyletswydd Achlysurol yn cynorthwyo i arwain tîm o staff achlysurol a gwirfoddolwyr yn cynorthwyo i reoli’r gweithrediadau o ddydd i ddydd er mwyn sicrhau profiad cwsmer o’r radd flaenaf.
Gall y gweithgaredd yn y Ganolfan redeg ar adegau amrywiol, yn enwedig gyda'r nos ac ar benwythnosau a dylai Rheolwr ar Ddyletswydd sicrhau bod aelodau'r tîm yn llawn cymhelliant, yn wybodus, tra'n hyrwyddo ein gweledigaeth ar shifft.
Elfen hanfodol o'r rôl hon yw darparu amgylchedd diogel i bawb.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- Cyfle i wneud cais am docynnau i gynyrchiadau
- CLWB – Ein grŵp cymdeithasol gweithwyr
- NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy'n cyfarfod bob mis i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan.
- Mynediad am ddim i ddysgu Cymraeg ar-lein
- £5 o barcio diwrnod cyfan ar gael ar ddiwrnodau gwaith a rhai nad ydynt yn waith.