Cydymaith Creadigol

Cyflog
£31,500
Location
Caerdydd
Oriau
Fixed term
Closing date
03.01.2024
Profile picture for user TEAM Collective Cymru

Postiwyd gan: TEAM Collectiv…

Dyddiad: 12 December 2023

Bydd y Cydymaith Creadigol yn cefnogi National Theatre Wales (NTW) i gomisiynu, datblygu a chyflwyno prosiectau yng Nghaerdydd. Byddant yn canolbwyntio ar ddatblygiad creadigol gwneuthurwyr theatr o Gymru ar draws gwaith NTW, ochr yn ochr â datblygu eu hymarfer artistig eu hunain.

Nod y rôl amrywiol a chyffrous hon yw:

  • datblygu artistiaid theatr Cymreig, gyda ffocws arbennig ar ddatblygu artistiaid sydd wedi'u hymyleiddio a'u hallgáu yn hanesyddol.
  • datblygu proffil, cyfle a grym ar gyfer unigolion, cwmnïau a phartneriaethau cydweithredol yng Nghymru.
  • cefnogi cyd-greu ein gwaith gyda chymunedau, fel rhan o raglen ymgysylltu TEAM NTW.

Bydd gan y Cydymaith Creadigol ei ymarfer creadigol ei hun, wedi’i wreiddio mewn creu theatr. Yn ystod y contract tymor penodol hwn, byddant yn cael y cyfle i archwilio eu hymarfer ymhellach gyda chymorth gan staff NTW. Gall hyn fod, er enghraifft, trwy gyfleoedd hyfforddi hunan-gyfeiriedig neu ddatblygu prosiect ar gyfer cynhyrchu.

Yn unol â nodau ac amcanion ein Cynllun Strategol 2023-2027, rhaid i’r Cydymaith Creadigol fod â dealltwriaeth a/neu brofiad byw o hiliaeth, a/neu ragfarn ar sail anabledd, a/neu dlodi.

Cefnogir y rôl hon gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd, ac felly rydym yn dymuno recriwtio ymgeisydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, sydd â dealltwriaeth o gymunedau Caerdydd.

Fel cyflogwr cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y dyfodol, byddwn yn ystyried ymgeiswyr sydd angen trefniadau gweithio hyblyg. Cysylltwch i drafod hyn.

  • Tymor: Swydd llawn amser, cyfnod penodol tan 28 Chwefror 2025
  • Cyflog: £31,500 y flwyddyn
  • Dyddiad cau: Mer 3 Ion 2024,17:00
  • Dyddiadau Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 8 Ionawr 2024
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.