Partner Busnes Adnoddau Dynol

Cyflog
£37,167 - £39,163 y flwyddyn
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
01.11.2023
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 20 October 2023

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y RôlPartner Busnes Adnoddau Dynol

Ystod Cyflog: £37,167 - £39,163 y flwyddyn

Dyddiad Cau: 1 Tachwedd 2023

Dyddiad Cyfweld:7th & 10th Tachwedd 2023

Amdanom Ni/Ein Hadran

Rydym yn chwilio am Bartner Busnes Adnoddau Dynol i ymuno â'n sefydliad cyffrous a chydnabyddedig. Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl, yn gweithio gydag artistiaid, pobl ifanc a chymunedau a byddem wrth ein bodd i’ch croesawu i’n tîm.

Rydym yn dîm AD sy'n canolbwyntio ar wella profiad gweithwyr trwy awtomeiddio ein prosesau, creu amgylchedd gwaith ysbrydoledig a deniadol a hyrwyddo arferion gorau o ran mentrau Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae gennym agenda cynhwysfawr ar gyfer ein Pobl a dyma gyfle i chi chwarae rhan allweddol ynddi.

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau

Bydd y rôl yn atebol i’r Pennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol a bydd yn cefnogi ac yn hybu gweithrediad strategaeth pobl Canolfan Mileniwm Cymru.

Byddwch yn arwain y tîm gweithrediadau AD i ddarparu gwasanaeth rhagorol i'r sefydliad, gan ysgogi, hyfforddi a datblygu pob aelod o'r tîm i fodloni'r lefelau perfformiad a ddisgwylir. Byddwch yn rhoi mentrau a gwelliannau ar waith ar draws yr holl brosesau AD allweddol gan gynnwys caffael talent, croesawu a ffarwelio, prosesu’r gyflogres, rheoli systemau a chynhyrchu adroddiadau AD effeithiol yn rheolaidd.

Byddwch yn darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i arweinwyr Canolfan Mileniwm Cymru ym mhob maes AD i gefnogi cyflawniad gweledigaeth y Ganolfan, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, rheoli absenoldeb, rheoli perfformiad, dysgu a datblygu, gwobrwyo a chydnabod, ymgysylltu â gweithwyr a chysylltiadau gweithwyr.

Gellir cyflawni'r rôl hon ar sail hybrid ond bydd angen o leiaf 3 diwrnod ar y safle.

Gofynion Allweddol

  • Bydd gennych ddealltwriaeth gyffredinol gref o bob maes AD, gan gynnwys caffael a datblygu talent, ymgysylltu â gweithwyr, deddfwriaeth cyflogaeth a chysylltiadau gweithwyr
  • Profiad amlwg o arwain a datblygu timau AD
  • Byddwch wedi arwain yn llwyddiannus ar ystod o fentrau gwella AD ar draws systemau, awtomeiddio prosesau a gwelliannau, gyda sgiliau rheoli prosiect amlwg i gyflawni prosiectau gwella AD yn effeithiol, ar amser a chyda lefel uchel o ansawdd ac ymgysylltiad
  • Y gallu i ddatrys problemau yn hyderus, adnabod atebion a'u rhoi ar waith yn gyflym
  • Yn ddelfrydol, byddwch yn aelod o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu neu gyfwerth.

Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 33 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, ynghyd â'r cyfle i brynu neu werthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn
  • 8% o bensiwn a gyfrannwyd gan y cwmni (ar gyfer eich cyfraniad o 3%)
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
  • Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol (ac anghenion gweithredol)

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.