Cydlynydd Gweithrediadau Pobl

Cyflog
£25,000 y flwyddyn
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
30.10.2023
Profile picture for user Welsh National Opera

Postiwyd gan: Welsh National Opera

Dyddiad: 12 October 2023

Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn lle creadigol ac ysbrydoledig i weithio ynddo ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Gydlynydd Gweithrediadau Pobl i gydlynu’r gweithgareddau gweinyddol o fewn Adran Pobl a Diwylliant brysur, gan weithio’n agos gyda’r tîm Pobl a Diwylliant a’r tîm Iechyd a Diogelwch.

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?

Yn y rôl hon, byddwch yn darparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr ar gyfer y cylch cyflogaeth ac yn cynorthwyo’r tîm Pobl a Diwylliant, gan gynnwys cynnal ffeiliau personél electronig cywir sy’n ymdrin ag amrywiol agweddau ar daith y cyflogai, sicrhau cydymffurfiaeth â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, hwyluso tasgau gweinyddol cyffredinol, paratoi ac adolygu dogfennau, rheoli archebion prynu ac anfonebau, cynnig cymorth gweinyddol yn ystod prosesau Pobl fel ymchwiliadau a chyfarfodydd, cyfrannu at brosiectau tîm, ac ymestyn cefnogaeth i’r tîm Pobl a Diwylliant ehangach gan gynnwys cymorth gweinyddol i'r tîm Iechyd, Diogelwch a Llesiant pan fo angen. Yn ogystal, mae cydlynu gweithgareddau recriwtio, o bostio hysbysebion swyddi i gynnal gwiriadau cyn cyflogaeth, yn rhan hanfodol o’r rôl hon.

Beth fydd angen ichi ei gael?

Dylech feddu ar ystod o sgiliau a phrofiad gwerthfawr, gan gynnwys y gallu i gynllunio a blaenoriaethu tasgau’n effeithiol, gan ddangos sgiliau trefnu a rheoli amser cryf, yn ogystal â hyfedredd wrth weinyddu. Mae profiad gyda systemau gwybodaeth AD iTrent® yn hanfodol, ynghyd â llygad rhagorol am fanylion a sgiliau TG, a’r gallu i gadw at egwyddorion diogelu data, cyfrinachedd a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Dylech hefyd fod yn gyfathrebwr hyderus, yn ysgrifenedig ac ar lafar, sy’n gallu cydweithredu mewn tîm neu weithio’n annibynnol.

Beth allwn ni ei gynnig i chi?

Cyflog Cystadleuol

 

Gwyliau Blynyddol

 

£25,000

 

Mae gan gydweithwyr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n rhedeg o 1 Medi i 31 Awst.  Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn.  Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.

Pensiwn

Mae'r holl weithwyr wedi'u hymrestru'n awtomatig i Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, tri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.  

Aelodaeth Campfa
 

Mae'r holl weithwyr yn gymwys am y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy'n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd.  

Gostyngiadau

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda Future Inns yng Nghaerdydd.

Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park
 

Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC).

Rhaglen Cymorth i Weithwyr
 

Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori am ddim a chyfrinachol sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.

Gwersi Cymraeg
 

Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gwella dewisol yn rhad ac am ddim.

Cynllun Arian Meddygol ac Ychwanegiadau at Fy Nghyflog

 

Mae pob cydweithiwr wedi’i gofrestru’n awtomatig i gynllun arian meddygol o’r enw BHSF ar lefel Arian, y telir amdano gan WNO. Mae hyn yn golygu bod modd i chi hawlio arian yn ôl ar gyfer gofal iechyd arferol a brys mewn perthynas ag ystod o ofal iechyd gan gynnwys gwasanaethau ffisiotherapi, deintyddol, optegol, osteopathi a mwy.  Gallwch hefyd gyrchu gwasanaeth Meddyg Teulu a Phresgripsiwn a gwasanaethau iechyd meddwl/cwnsela.

Mae ‘Ychwanegiadau at Fy Nghyflog’ yn cynnig buddion a gostyngiadau ar wariant bob dydd, gan gynnwys, diwrnodau hamdden allan, pryniannau i'r cartref, moduro a theithio.

 

 

Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg.  Os ydych yn dymuno gwneud cais yn Gymraeg, ni chaiff ei drin yn llai ffafriol na phe byddech yn gwneud cais yn Saesneg.

 

Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â Heledd Davies drwy heledd.davies@wno.org.uk 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.