Mae Prifysgol Caerdydd yn ceisio cynigion gan newyddiadurwyr ac ymchwilwyr sy'n gweithio yng Nghymru ar gyfer prosiect ymchwil. Mae'r prosiect, “Mapio'r Sector Newyddiaduraeth yng Nghymru: Deall y Rhwystrau a'r Hyn sy’n Galluogi Newyddiaduraeth Lwyddiannus Er Budd y Cyhoedd yng Nghymru” yn cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd a'i ariannu gan Gymru Greadigol. Nod y prosiect yw cefnogi Gweithgor Newyddiaduraeth Er Budd y Cyhoedd Cymru, a sefydlwyd yn 2021, a Llywodraeth Cymru wrth lunio a chreu strategaethau i greu sector newyddiaduraeth er budd cyhoedd sy'n ceisio am y gorau yng Nghymru.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y prosiect drwy https://www.iwa.wales/agenda/2023/09/making-journalism-work-for-wales-data/ (Saesneg yn unig) a https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2023-08/o-gymru-ac-i-gymru-tuag-at-ddyfodol-cynaliadwy-ar-gyfer-newyddiaduraeth-er-budd-y-cyhoedd.pdf
- Ni ddylai cyfanswm cyllideb y prosiect fod yn fwy na £4,000.
- Dylai'r prosiect cael ei gynnal rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023.
Y prosiect
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae newyddiaduraeth er budd y cyhoedd wedi gorfod delio â'r dirywiad yn nifer y bobl sy’n darllen papurau newydd, cynnydd yn nifer y ffynonellau newyddion amgen, goruchafiaeth cwmnïau technoleg, a'r drafodaeth barhaus ynghylch gwrthrychedd a dibynadwyedd ffynonellau newyddion. Daeth y materion hyn yn fwy pwysig yn ystod pandemig COVID-19, sydd wedi cael effaith benodol ar sefydlogrwydd cyflogaeth ac amodau gwaith newyddiadurwyr.
Gan ganolbwyntio ar gynhwysiant, anghenion defnyddwyr, a datblygu'r gweithlu, bydd y prosiect hwn yn anelu at gasglu dealltwriaeth a gwybodaeth fanwl gan newyddiadurwyr a rhanddeiliaid sector newyddiaduraeth Cymru am y materion a'r llwybrau posibl ar gyfer newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yng Nghymru yn y dyfodol.
Gwaith y Prosiect:
- Cynnal cyfweliadau a/neu grwpiau ffocws gyda newyddiadurwr, cynrychiolwyr gwahanol blatfformau newyddion a rhanddeiliaid cyhoeddus a phreifat eraill sector newyddiaduraeth Cymru (casglu gwybodaeth ac ennill dealltwriaeth gan rhwng 15 a 30 o randdeiliaid newyddiaduraeth).
- Dadansoddi ac adrodd ar ganfyddiadau'r cyfweliadau.
- Gweithio ar y cyd â thîm y prosiect i gyfrannu at adroddiad terfynol y prosiect.
- Helpu i rannu’r adroddiad a'r canfyddiadau i wahanol randdeiliaid trwy gyflwyniadau a chymryd rhan mewn digwyddiadau.
Meini prawf dethol:
- Gwybodaeth dda am Gymru a'r sector newyddiaduraeth Gymraeg.
- Profiad ym maes newyddiaduraeth, neu waith ymchwil cysylltiedig.
- Gwybodaeth am yr iaith Gymraeg.
- Sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu adroddiadau cryf.
Cyflwynwch eich dyfynbris cyn 13 Hydref 2023 drwy ebostio fodorm@caerdydd.ac.uk gan gynnwys y dogfennau canlynol:
- CV byr cyfredol yn dangos eich profiad a'ch gwybodaeth yn ymwneud â'r meini prawf dethol uchod.
- Cynnig (uchafswm o dudalen) sy'n amlinellu'ch dull arfaethedig wrth ymwneud â’r prosiect.
Peidiwch ag oedi cyn anfon e-bost at Dr. Máté Fodor (fodorm@cardiff.ac.uk) os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Sylwch fod y broses ddethol ar gyfer y rôl hon yn gweithredu ar sail cyfle cyfartal. Mae unrhyw ohebiaeth neu ddata personol a drosglwyddir o fewn cyd-destun y prosiect hwn wedi’i ddiogelu o dan bolisi diogelu data Prifysgol Caerdydd, sydd ar gael ar-lein yma: https://www.cardiff.ac.uk/cy/public-information/policies-and-procedures/data-protection.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at dderbyn eich cynnig.