Mae cyfathrebu â myfyrwyr wrth wraidd yr hyn a wnawn yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o wneud hyn yn effeithiol. Os ydych chi'n gyfieithydd hyderus sy'n angerddol am y Gymraeg, a bod gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda chynulleidfa ifanc, amrywiol, yna efallai mai dyma'r rôl i chi.
Rydym yn recriwtio’r swydd hon ar adeg gyffrous i’r mudiad. Am y tro cyntaf, mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi croesawu Swyddog Iaith, Cymuned a Diwylliant Cymraeg newydd llawn-amser yn ystod Etholiadau Gwanwyn 2023. Mae cyflwyno’r rôl hon ar gyfer Swyddog Sabothol yn arwydd o ddechrau datblygiad cynyddol yn ein darpariaeth a’n hymgysylltiad â’r Gymraeg.
Yr hyn y byddwch yn ei wneud
Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu a’r adran ehangach i ddarparu gwasanaeth marchnata a chyfathrebu dwyieithog i’r mudiad. Byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cyfieithu o ansawdd uchel, yn ogystal â chyfathrebu’n uniongyrchol â myfyrwyr a rhanddeiliaid Cymraeg eu hiaith drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, cynnwys ar wefannau a chyfathrebu drwy e-bost.
Byddwch hefyd yn gweithio i sicrhau bod y mudiad yn cydymffurfio â’r Polisi Iaith Gymraeg, a byddwch yn cynghori staff, myfyrwyr a’n tîm Swyddogion Etholedig ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg. Byddwch yn rhoi cymorth i’r Swyddog Iaith, Cymuned a Diwylliant Cymraeg ac UMCC (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd) wrth ymgyrchu a hyrwyddo’r Gymraeg.
Sgiliau
Mae’r tîm marchnata a chyfathrebu yn lle prysur a chyffrous i weithio, felly mae angen i chi fod yn gyfforddus yn ymgymryd â llawer o brosiectau a chynllunio eich amser eich hun. Mae sylw i fanylder yn bwysig iawn - rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau ysgrifennu copi, cyfieithu a phrawfddarllen rhagorol. Yn bwysicaf oll, rhywun a fydd bob amser yn ymdrechu am ragoriaeth. Rydym yn falch iawn o'r gwaith rydym yn ei gynhyrchu ac rydym am i chi deimlo'r un peth.
Gofynion
- Sgiliau cyfieithu Cymraeg lefel uchel gyda'r gallu i gynnal naws ein brand.
- Hyder wrth gyfathrebu’n uniongyrchol â myfyrwyr a rhanddeiliaid Cymraeg eu hiaith drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, cynnwys gwefan a chyfathrebu drwy e-bost.
- Y gallu i feithrin perthnasoedd da ag amrywiaeth o bobl o fewn y mudiad ac yn allanol.
- Creadigrwydd wrth gydweithio ar ddatblygu ymgyrchoedd marchnata Cymraeg gyda’r tîm Marchnata a Chyfathrebu.
- Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu, cyflwyno a TG cryf.
Pa fantais sydd i chi?
Gweithio gyda thîm deinamig a chreadigol sy'n ymwneud â phopeth y mae'r mudiad yn ei wneud a'r cyffro o weld eich gwaith caled yn cael ei gyhoeddi ar-lein.
Mae'r rôl hon yn swydd barhaol lawn-amser, 35 awr yr wythnos yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Mae’n cynnig awyrgylch gwaith a phecyn buddion ardderchog, gan gynnwys 34 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â gwyliau banc.
Sylwch, rydym yn cadw'r hawl i gau neu ymestyn y cyfnod ar gyfer gwneud cais am y rôl hon gan ddibynnu ar nifer y ceisiadau. Felly, byddem yn annog ymgeiswyr i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 15fed Awst 2023.