CTS Rheolwr Gyfarwyddwr (Gwasanaethau Theatrig Caerdydd)
Yn gyfrifol am:
- Pennaeth Prosiectau,
- Pennaeth Adeiladu,
- Rheolwr Celf Golygfeydd,
- Gweinyddwr a Derbynnydd
Yn atebol i:
- Bwrdd Gwasanaethau Theatrig Caerdydd / Cyfarwyddwr Technegol WNO
Prif ddiben y swydd:
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu, rheoli a darparu nodau strategol Gwasanaethau Theatrig Caerdydd (CTS) a goruchwylio gweithgareddau gweithredol megis darparu busnes masnachol hyfyw sy’n cyflawni lefelau uchel o wasanaeth i WNO a chwsmeriaid allanol.
Cwmpas a dimensiynau:
Cyflawni elw cytunedig drwy reoli gweithrediad masnachol y gweithdy’n strategol a chyflawni’r targed trosiant.
Prif Atebolrwydd:
Strategol
- Datblygu, ar y cyd â’r Bwrdd, nodau a strategaeth CTS.
- Cynghori’r Bwrdd ar arallgyfeirio ac ehangu strategol.
- Magu perthynas hirdymor lwyddiannus gyda chwsmeriaid i sicrhau bod gwaith yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol a bod amserlenni talu cyflym yn cael eu cyflawni
- Chwilio am gleientiaid a chytundebau newydd i CTS, a’u diogelu, i sicrhau bod targedau elw blynyddol yn cael eu cyflawni
- Bod yn ganolog o ran rheoli perthynas waith effeithiol a llwyddiannus rhwng WNO a CTS
Gweithredol
- Gweithio gyda’r Bwrdd, a bod yn gyfrifol amdano ac atebol iddo, mewn perthynas â phob agwedd weithredol ar CTS
- Sicrhau y cyflawnir y lefelau uchaf o safonau ansawdd wrth ddarparu cynnyrch i WNO a chleientiaid allanol
- Sicrhau'r lefelau uchaf o effeithlonrwydd, gallu a chapasiti gweithredol i ddarparu cynnyrch
- Gweithredu fel rheolwr rheoli ar gyfer pob eiddo ac offer dan reolaeth CTS
Ariannol
- Cyflawni lefelau proffidioldeb CTS, o fewn canllawiau a sefydlwyd gan WNO. Mae hyn yn cynnwys rheoli costau i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cynnal ar sail fasnachol hyfyw
- Drafftio a monitro cyllidebau blynyddol ar gyfer y gweithrediad
- Monitro cyfradd llafur cyffredinol yr awr a chyfradd prisio deunydd a chynghori ar newidiadau a all fod yn angenrheidiol i sicrhau adferiad llawn mewn cyflog a chostau gorbenion.
- Goruchwylio a gwerthuso prisiau prynu deunydd, gan sicrhau bod yr adenillion gorau’n cael eu cyflawni
- Goruchwylio, gyda’r rheolwyr priodol, costau a phrisiau’r holl waith a wneir gan CTS a sicrhau bod yr amcangyfrifon hyn yn cyrraedd y cwsmer
- Cytuno ar delerau a phrisiau cytundeb, gan ddefnyddio gweithdrefnau ysgrifenedig cytunedig
Pobl
- Rheoli perfformiad pobl y mae deiliad y swydd yn gyfrifol amdanynt, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i:
- Oruchwylio eu gwaith i gyflawni’r effeithiolrwydd gorau a darparu cymorth ac arweiniad lle bo angen.
- Darparu adborth ar berfformiad, gan gynnwys cynnal arfarniad blynyddol ac adnabod anghenion hyfforddiant a datblygu.
- Arwain a datblygu tîm effeithiol a brwdfrydig, gan sicrhau bod y tîm yn cyflawni'r lefel ddymunol o berfformiad yn rheolaidd
- Darparu adborth ar berfformiad, gan gynnwys cynnal arfarniad blynyddol ac adnabod anghenion hyfforddiant a datblygu
- Datblygu, monitro a rheoli perfformiad drwy bennu targedau clir, gan ddarparu data i'r Bwrdd yn ôl yr angen
- Datblygu galluoedd a sgiliau newydd o fewn yr uned i gyflawni yn erbyn y strategaeth a chynllun busnes
- Sicrhau bod y strwythur staff uwch a gweithdy ac adnoddau yn bodloni anghenion y cynllun busnes, ac yn cyd-fynd ag ef
- Sicrhau cynllunio olyniaeth ar gyfer pob swydd a nodi ymgeiswyr priodol
- Ffurfio’r strategaeth ar gyfer adleoli prentisiaid ymhellach
- Sicrhau yr ymgymerir â phob agwedd ar reoli tîm yn unol â'n polisïau ac arferion gan gynnwys recriwtio, cynefino a chyfnod prawf, hyfforddiant, absenoldeb salwch, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, iechyd a diogelwch a chyfathrebu.
Cyffredinol
- Cydweithredu â ni i gydymffurfio â deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol wrth gyflawni'r swydd. O fewn y swydd hon, bydd angen derbyn cyfrifoldeb dros faterion Iechyd a Diogelwch lefel 6 (gweler yr atodiad)
- Ymddwyn yn unol â'n gwerthoedd
- Cynnal cyfrinachedd a chadw at ganllawiau diogelu data a chanllawiau cysylltiedig lle bynnag sy'n briodol
- Sicrhau cydymffurfiaeth â'n polisïau a'n gweithdrefnau bob amser.
Nid yw'r dyletswyddau yn y swydd ddisgrifiad hon yn hollgynhwysol a gellir eu newid ar unrhyw adeg i adlewyrchu anghenion newidiol y sefydliad.
Rheolwr Gyfarwyddwr CTS - Manyleb Person
Gwybodaeth a phrofiad
- Profiad amlwg o reoli busnes gweithgynhyrchu masnachol
- Profiad masnachol o’r sector busnes
- Dealltwriaeth ragorol o gynllunio golygfa
- Y gallu i weithio’n strategol a gweithredol pan fo angen
- Profiad trylwyr o reoli cyllidebau a chynllunio ariannol
- Y gallu i ddadansoddi a dehongli gwybodaeth ariannol
- Sgiliau rheoli amser, prosiect a threfnu amlwg, gyda’r gallu i gydbwyso anghenion sy’n mynd yn groes i’w gilydd
- Sgiliau rheoli pobl datblygedig iawn a hanes o ddatblygu tîm o unigolion sy’n perfformio’n dda
- Profiad o ddatblygu systemau a gweithdrefnau gweinyddol effeithiol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Y gallu i ddefnyddio cyfrifiadur, a rhaglenni Word, Excel ac ACAD yn benodol
- Gweithio’n galed ac yn egnïol; hyblyg a gallu addasu
- Y gallu i weithio ar eich pen eich hun ac ar eich menter eich hun yn ogystal ag fel aelod o dîm
- Gwybodaeth weithredol o'r celfyddydau, yn ddelfrydol opera, sioeau cerdd a'r theatr*
- Profiad o weithio gyda phartneriaid rhyngwladol*
- Gwybodaeth dda o systemau gweinyddol TG effeithiol*
- Y gallu i siarad/ysgrifennu yn Gymraeg*
Mae pwyntiau sydd wedi'u marcio â seren (*) yn ddymunol yn hytrach na hanfodol.
Sgiliau, galluoedd a phrofiad
- Gallu arwain a datblygu tîm arbenigol, mawr a sefydledig
- Hyrwyddo cydweithio ar draws y sefydliad er mwyn cyflawni nod cyffredin
- Sgiliau cyflwyno a chyfathrebu, trafod a dylanwadu rhagorol, gyda'r gallu i gynllunio a rheoli adnoddau'n effeithiol, mewn dull agored a chynhwysol sy’n ysbrydoli ymddiriedaeth
- Meddyliwr strategol gyda sgiliau cynllunio busnes cadarn a’r profiad o ymgysylltu’n llwyddiannus â rhanddeiliaid allanol
- Greddf entrepreneuraidd a’r gallu i symud mentrau yn eu blaen er mwyn cynyddu incwm
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol i sefydlu enw da, credadwyaeth a pherthnasoedd ar lefel uwch ac ar draws CTS ac Opera Cenedlaethol Cymru gyfan
- Credadwyaeth bersonol a phroffesiynol
- Dyfeisgar a chanolbwyntio ar ddatrysiadau
- Mabwysiadu agwedd hyblyg at ofynion y swydd.