Ynglŷn â’r Rôl
Mae hon yn rôl gyffrous a chreadigol lle byddwch yn datblygu proffil ac enw da Llenyddiaeth Cymru, a chynyddu ein cynulleidfaoedd a’n cleientiaid. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm cyfathrebu Llenyddiaeth Cymru, pob un â chyfrifoldebau penodol i helpu i adrodd stori ein sefydliad.
Byddwch yn bennaf gyfrifol am gynyddu gwerthiant cyrsiau ysgrifennu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Bwthyn Encil Awduron Nant, ac am hyrwyddo cyfleoedd, digwyddiadau a phrosiectau Llenyddiaeth Cymru. Byddwch hefyd yn cyfrannu tuag at gynyddu a datblygu cynulleidfaoedd, gan sicrhau fod ein gwasanaethau a’n cyfleoedd yn cyrraedd hyd yn oed rhagor o bobl. Bydd gennych gyfrifoldebau gweinyddol yn ogystal, gan gynnwys cynnal a chadw cronfa ddata o gysylltiadau marchnata.
Bydd y Cydlynydd Marchnata a Hyrwyddo yn:
- Creu cynlluniau marchnata yn ôl nodau strategol Llenyddiaeth Cymru, yn bennaf ar gyfer rhaglen gyrsiau flynyddol Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a bwthyn encil Nant, a digwyddiadau lle gobeithiwn ddenu cynulleidfaoedd
- Creu cynlluniau gweithredu ar gyfer hyrwyddo cyfleoedd, gwasanaethau, a phrosiectau lle rydym yn gobeithio cyrraedd rhagor o bobl
- Gwneud gwaith ymchwil i mewn i’r gymuned lenyddol, gan greu a meithrin perthnasau gyda chydweithwyr mewn sefydliadau eraill, trefnwyr cylchoedd llên, ymgyrchoedd celfyddydol ledled Cymru, a llawer mwy
- Arwain ar farchnata uniongyrchol megis anfon ebyst torfol at unigolion sydd wedi ymwneud â’n gweithgareddau yn y gorffennol, partneriaid, grwpiau llên ayyb
- Cadw trosolwg o weithgareddau hysbysebu, gan gynnwys gweinyddu’r gyllideb, ac adrodd ar lwyddiannau’r gweithgareddau hynny
- Creu a rhannu posteri a thaflenni (digidol yn bennaf)
- Trefnu, cyflawni a dadansoddi ymgyrchoedd marchnata a hyrwyddo ar-lein
- Datblygu, cynnal a chadw cronfa ddata fewnol o gysylltiadau at bwrpasau marchnata a hyrwyddo
- Creu cylchlythyr misol a chynnwys i’r wefan
- Creu cynnwys, a rheoli phresenoldeb Tŷ Newydd ar gyfryngau cymdeithasol
- Ysgrifennu, golygu, cyfieithu a phrawf ddarllen copi a chynnwys digidol yn y Gymraeg a’r Saesneg, megis straeon newyddion
- Gwneud gwaith dylunio i hyrwyddo gweithgareddau a phrosiectau gan ddefnyddio Adobe Photoshop a/neu Canva
- Cefnogi’r Arweinydd Cyfathrebu a Rheolwr Safle Tŷ Newydd gyda materion yn ymwneud â’r cyfryngau a magu perthynas gyda’r wasg a’r cyfryngau yn lleol
- Gwerthuso a monitro profiadau cynulleidfaoedd
- Unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n ofynnol gan y sefydliad.
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
- Â phrofiad o ddatblygu cynulleidfaoedd, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddatblygu rhestrau marchnata
- Profiad o farchnata a gwerthiant, a gweithio i gyrraedd targedau ariannol
- Â’r gallu i feddwl yn greadigol
- Â sgiliau cyfathrebu cryf, sensitif, a phositif yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae hyn yn berthnasol i gyfathrebu ysgrifenedig a llafar
- Â’r gallu i aml-dasgio ac i reoli amser, bod yn drefnus, ac i flaenoriaethu dyletswyddau
- Â phrofiad o ysgrifennu copi a phrawf ddarllen
- Â diddordeb mewn llenyddiaeth ac yng ngrym y celfyddydau i ymdrin â materion cyfiawnder cymdeithasol.
Mae profiad o’r canlynol yn ddymunol:
- Profiad o reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol sefydliadol, yn enwedig Twitter, Facebook, ac Instagram
- Profiad mewn dylunio gyda rhaglenni Microsoft Office a/neu Photoshop / Canva
- Creu a golygu fideos ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
- Rheoli prosiectau
Bydd Llenyddiaeth Cymru yn darparu Gwiriad Cofnodion Troseddol (DBS Check) i’r ymgeisydd llwyddiannus i'r lefel sy’n briodol i’r rôl ac yn cadw’r hawl i derfynu cyflogaeth neu ddiddymu cynigion cyflogaeth ble'n addas.
Yn atebol i:
- Rheolwr Safle Tŷ Newydd
Rydym yn dîm cyfeillgar a chreadigol sydd yn gweithio yn agos â’n gilydd drwy’r Gymraeg, Saesneg ac yn ddwyieithog ledled Cymru. Rydym yn gweithio mewn modd hybrid ac mae angen mynychu un o’n swyddfeydd yn rheolaidd, ond gellir cyflawni rhan fawr o'r rôl hon wrth weithio o adref. Byddwn yn darparu'r offer angenrheidiol i chi gan gynnwys gliniadur ar brydles. Os yw’r disgwyliad i fynychu'r swyddfa yn eich atal rhag ymgeisio am unrhyw reswm, cysylltwch â ni dros e-bost i drafod eich sefyllfa ymhellach.