Mae hwn yn brosiect cyffrous ac uchelgeisiol sy’n cysylltu hanes radicaliaeth, protest a gweithredu gwleidyddol uniongyrchol Cymreig â’r heriau lleol, cenedlaethol a byd-eang sy’n ein hwynebu.
Yn berfformiad, yn gythruddiad, ac yn gig, bydd y prosiect hwn yn cyfuno cynhyrchu drama newydd gyda rhaglen ehangach o waith yn canolbwyntio ar wneud newid mewn byd cymhleth.