Uwch Reolwr/wraig Cyfathrebu (Dwyieithog)

Cyflog
£34,047 - £37,950 yr awr yn unol â phrofiad
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
01.06.2022
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 11 May 2022

Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.

Mae'r adran Marchnata a Chyfathrebu yn gyfrifol am feithrin a chynnal cynulleidfaoedd cynaliadwy ac ymwelwyr achlysurol ar gyfer ystod eang o gynyrchiadau, rhaglenni a gweithgareddau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Wrth i ni barhau i weithredu newidiadau cadarnhaol ar draws ein rhaglen a’n diwylliant sefydliadol, bydd y rôl hon yn allweddol i helpu i gryfhau ein henw da fel canolbwynt creadigol a chanolfan gelfyddydau cenedlaethol.

Sylwch, mae'r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon

Dyddiad Cau: 01 Mehefin 2022

Am fwy o fanylion am y rôl a fwy o fanylion am ein buddion staff cystadleuol, plîs ewch i ein wefan: https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/buddion-staff

Proses Ymgeisio:

  • Ewch i https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/swyddi-gwag
  • Adolygu proffil rôl yr Uwch Reolwr/wraig Cyfathrebu (Dwyieithog)
  • Lawr lwythwch a chwblhewch ffurflen gyflenwi Canolfan y Mileniwm, gan gyfeirio at y nodyn canllaw i gael gwerthoedd Canolfan y Mileniwm
  • Cwblhewch y ffurflen Cyfle Cyfartal
  • Anfonwch eich CV a Ffurflen Eglurhaol i recruitment@wmc.org.uk

Rydyn ni’n croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os ydych chi’n ymgeisio am swydd yn y Ganolfan yn Gymraeg, ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi’i gyflwyno yn Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event