Rhaglen gwerth £50 miliwn i ddatblygu sector cyfryngau ffyniannus Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolfan arloesedd fyd-eang ym maes y cyfryngau yw media.cymru.
Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mae media.cymru yn dod â meysydd cynhyrchu cyfryngau, darlledu, technoleg, partneriaid mewn prifysgolion ac arweinwyr lleol ynghyd i roi hwb i dwf economaidd cynhwysol a chynaliadwy. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n gwella gallu busnesau bach i arloesi, yn buddsoddi mewn seilwaith digidol, yn ymateb i’r technolegau sy’n dod i’r amlwg ac yn ceisio diwallu anghenion am sgiliau at y dyfodol.
Bydd y rôl hon yn canolbwyntio ar gyfathrebu, ymgysylltu a gweithgareddau gweinyddol gan gynnwys lanlwytho cynnwys i blatfformau ar-lein, creu adroddiadau ar berfformiad cyfathrebu a chefnogi’r gwaith o greu deunydd hyrwyddo.
Hwyrach y bydd y cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau, cymryd nodiadau, ymdrin â negeseuon sy’n cyrraedd yr ysgol a rheoli ffeiliau.
Disgrifiad Swydd
- Cynorthwyo cyfathrebu dwyieithog rhaglen media.cymru i gynulleidfaoedd mewnol ac allanol.
- Trefnu’r gwaith o baratoi a chreu deunydd hyrwyddo, gan gynnwys rheoli’r dylunio, yr argraffu a’r dosbarthu.
- Lanlwytho cynnwys media.cymru i blatfformau ar-lein gan gynnwys y wefan, e-gyfathrebiadau a’r cyfryngau cymdeithasol.
- Cefnogi’r gwaith o drefnu a marchnata digwyddiadau ymgysylltu megis gweithdai, darlithoedd a digwyddiadau rhwydweithio.
- Monitro a rheoli cyfathrebiadau sy’n cyrraedd yr ysgol, ymateb i negeseuon ebyst mewn ffordd amserol a phriodol ac yn unol â’r brand ac ateb y ffôn.
- Ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi rhaglen media.cymru gan gynnwys trefnu cyfarfodydd, cymryd nodiadau, rheoli’r calendr a’r ffeiliau.
- Meithrin perthynas waith gyda rhanddeiliaid allweddol ac aelodau'r Consortiwm yn ôl yr angen i sicrhau bod rhaglen media.cymru yn rhedeg yn esmwyth.
- Casglu a dadansoddi data ar allbwn cyfathrebiadau er mwyn creu adroddiadau yn ôl yr angen.
- Sicrhau ac annog cydymffurfiaeth â hunaniaeth weledol a chanllawiau brand media.cymru ar draws y rhaglen, gan ddarparu asedau a thempledi brand pan fo angen.
- Monitro’r cyfeiriadau a’r sylw i raglen media.cymru, gan gadw cofnod diweddar o'r wasg.
- Cynnal system rheoli cwsmeriaid gan gynnwys creu rhestrau cyswllt sy'n cydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rolau hyn neu os bydd angen yr wybodaeth hon arnoch mewn fformat gwahanol, ebostiwch media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 029208 76188.