Gynhyrchydd Datblygu Drama profiadol

Cyflog
Yn ddibynnol ar brofiad
Location
Caerdydd
Oriau
Other
Closing date
04.03.2022
Profile picture for user Boom Cymru HR

Postiwyd gan: Boom Cymru HR

Dyddiad: 10 February 2022

Mae Boom yn chwilio am Gynhyrchydd Datblygu Drama profiadol ac egnïol i arwain datblygu trwy gyfrwng y Saesneg ar draws ystod eang o genres a phrosiectau.  Byddwch wedi magu cysylltiadau adeiladol gyda chomisiynwyr ac asiantwyr allweddol ac yn angerddol am ganfod a datblygu awduron newydd a sefydliedig a’r rhai sy’n cael eu tan-gynrychioli ar draws Cymru a thu hwnt.  Bydd eich sgiliau golygyddol dadansoddol medrus yn cyd-fynd â dawn ysgrifennu trawiadol a chreadigol.  Byddwch yn aelod tîm haelfrydig wrth arwain ar eich prosiectau unigol tra’n cefnogi datblygu prosiectau eraill.  Mae’r rôl newydd yma yn gyfle gwych i unigolyn uchelgeisiol, cydweithredol wneud eu marc mewn amgylchedd cefnogol a chreadigol.   Lleolir y rôl yng Nghaerdydd ond bydd modd ystyried ceisiadau gweithio yn hyblyg / gweithio o adref.  Nid yw’r gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol ar gyfer y rôl hwn. 

Anfonwch CV a llythyr cais at hr@boomcymru.co.uk erbyn Gwener 4ydd o Fawrth gan nodi Cynhyrchydd Datblygu Drama.

 

Mae Boom Cymru yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu pobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol. Rydym yn ymroi i adlewyrchu a chynrychioli’r amrywiaeth a geir yn y Deyrnas Unedig ymhob agwedd o’n gwaith. Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom Cymru a chaiff y wybodaeth a gyflenwir ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru (http://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/). Byddwn yn cadw eich CV am 6 mis, oni bai eich bod yn gofyn i ni ei ddileu yn gynharach

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.