Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Bod yn gyfrifol am dasgau gweithrediadol o fewn y tîm cyllid, yn benodol sicrhau bod gwerthiannau’n cael eu mewnbynnu’n gywir i’r system gyllid, bod cysoniadau banc yn cael eu cwblhau’n ddyddiol a bod anfonebau pryniant a gwerthiant yn cael eu mewnbynnu i’r system mewn modd amserol. Delio ag unrhyw gyfnodolion caffael a mewnol. Rhannu tasgau yn ôl yr angen gydag ail Gynorthwy-ydd Cyllid tra hefyd yn cyflenwi ar gyfer rolau cyllid eraill yn ôl yr angen.
Cyfweliadau: WyD 21 Chwefror 2022
Am fwy o fanylion am y rôl a fwy o fanylion am ein buddion staff cystadleuol, plîs ewch i ein wefan: https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/buddion-staff
Proses Ymgeisio:
- Ewch https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/swyddi-gwag ac adolygu'r nodiadau canllaw i wneud cais am y rôl (mae'r ddogfen hon yn cynnwys Gwerthoedd Canolfan y Mileniwm).
- Llenwch y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Adolygu'r Proffil Rôl ar gyfer y swydd a lawrlwytho ffurflen glawr y Ganolfan.
- Anfonwch eich CV a'ch Ffurflen Clawr wedi'i llenwi at recriwtio @ wmc. org. uk (Dim lleoedd)
Rydyn ni’n croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os ydych chi’n ymgeisio am swydd yn y Ganolfan yn Gymraeg, ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi’i gyflwyno yn Saesneg.