IMae Ian yn un o gyd-sylfaenwyr Caerdydd Creadigol. Yma mae’n egluro’r rhan a chwaraeodd wrth greu Caerdydd Creadigol. Mae diddordebau Ian yn cynnwys yr economi greadigol, y cyfryngau, newyddiaduraeth, eiddo deallusol, ac effaith technolegau cyfathrebu digidol.
Ysgrifenna Ian:
Am resymau sy’n fwy cymhleth nag y gellir eu hesbonio’n llawn yma, cefais fy hun ar ddiwedd 2010 mewn sgwrs â’r Athro Justin Lewis, a oedd yr adeg hynny’n bennaeth ar yr hyn a elwir bellach yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) ym Mhrifysgol Caerdydd. Roeddem yn trafod swyddi. Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o fy mywyd gwaith fel newyddiadurwr, wedi’i leoli yn Bradford, Llundain neu Efrog Newydd, roeddwn i hefyd am rai blynyddoedd wedi mwynhau perthynas sylweddol â JOMEC, ond yn 2010 roeddwn yn dod i ddiwedd cyfnod yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, lle bûm, fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol, yn gweithio i’r Ysgrifennydd Tramor David Miliband, a’i dymor yn y swydd yn dod i ben gyda threchu Llafur yn etholiad cyffredinol mis Mai 2010.
Yn ystod fy nghyfnod yn y Swyddfa Dramor, roeddwn i rywsut wedi llwyddo hefyd i ysgrifennu adroddiad ar ddiwydiannau creadigol yng Nghymru. Fe’i cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2010, a gwnaethom ei alw: ‘Calon Digidol Cymru: adolygiad o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru’. Teitl gwych. Anogodd Gymru i fachu ar ei chyfleoedd yn yr economi greadigol genedlaethol a rhyngwladol ffyniannus, lle’r oedd y rhyngrwyd yn rhwygo rheolau’r gêm yn ddarnau. Yng nghanol aflonyddwch newyddion, ffilm, teledu, y celfyddydau, chwaraeon a llawer o bethau eraill, roedd yna wastad gyfle o arloesi’ch ffordd i lwyddiant. Awgrymais fel teitl swydd i mi fy hun: Athro yr Economi Ddigidol a gwnaethom gwblhau’r cytundeb yn gyflym, gan ddechrau’r gwaith ym mis Hydref 2010.
Yn ystod y degawd a ddilynodd, 2010–2020, gwelwyd perfformiad gwell parhaus yn nhwf economi greadigol y DU, a ddiffinnir fel gwerth y gwaith creadigol a wnaed ar draws yr economi gyfan (yn hytrach na chyfyngu’r cyfrifiad hwn i gyfrifo gwerth yr allbwn sy’n tyfu’n iach yn y diwydiannau creadigol yn unig). Gan weithio gyda chydweithwyr yn Nesta, gwnaethom gyd-ysgrifennu ‘Maniffesto ar gyfer yr Economi Greadigol’, a gyhoeddwyd yn 2013. Roedd y gwaith hwn yn cyd-daro â’m rhan yn un o bedair Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth y DU ar gyfer yr Economi Greadigol a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Roedd ein gwaith ni yn brosiect Cymru a Gorllewin Lloegr dan arweiniad yr Athro Jonathan Dovey o Brifysgol Gorllewin Lloegr (UWE), sy’n fwyaf adnabyddus yn ôl ei deitl cryno, REACT. O REACT, gwnaethom ddysgu llawer am bartneriaethau, gan gyfuno egni uchel ac arweinyddiaeth â’r chwilfrydedd a sensitifrwydd i ddeall dyheadau eich partneriaid. Dywedodd adroddiad diwedd y rhaglen REACT mai ei etifeddiaeth fwyaf parhaol fyddai “y rhwydwaith hwn o gysylltedd ystwyth”.
Wrth edrych yn ôl, nid yw’n rhy anodd gweld pam, erbyn 2015, roeddem yn awyddus i fwrw ymlaen â Caerdydd Creadigol.
Y cyfan oedd ei angen arnom oedd tîm gwych o bobl. Cawsom hynny hefyd. Ac maen nhw’n gofyn yn briodol bellach: pam oedd rhaid i chi gymryd cymaint o amser?