Edrych yn ôl ar 2021 o ran Caerdydd Creadigol

Neges gan Vicki, Rheolwr Prosiect Caerdydd Creadigol. 

Wrth i ni agosáu at ddiwedd y flwyddyn, roeddwn am achub ar y cyfle hwn i edrych yn ôl ar yr holl weithgareddau, cymunedau a rhwydweithiau rydym wedi bod yn rhan ohonynt yn 2021. Wrth i mi ysgrifennu hyn, cefais fy atgoffa o'n profiadau cyffredin, gan gynnwys y gwaith rydym wedi’i wneud ar y cyd sydd wedi arwain at gyfleoedd i dyfu, cysylltu a symud ymlaen gyda'n gilydd. Dyma'r hyn rydym wedi bod yn ei wneud drwy gydol eleni...

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 14 December 2021

Adordd Stori Caerdydd a Gweithgarwch Creadigol y Rhanbarth

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, daethom â 12 o bobl greadigol at ei gilydd ar-lein o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i greu gwaith ar gyfer map stori unigryw.

Roedd ein prosiect ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru, Ein Lle Creadigol, yn annog cysylltu a rhwydweithio ar draws sectorau creadigol. Roedd yn canolbwyntio ar fynediad creadigol ac yn manteisio ar brofiad, cymorth ac arweiniad y cydlynydd mynediad, Becky Davies.

Our creative place 2021 creative pieces

Justin Teddy Cliffe quote about Our Creative Place
Agorwch fap stori Ein Lle Creadigol i fwynhau'r 12 darn newydd o waith ?

Roedd recordio a rhyddhau cyfres tri o'n podlediadau, Get a ‘Proper’ Job a Rhywbeth Creadigol? yn uchafbwynt go iawn i mi! Roedd yn gyfle i gynnwys grŵp amrywiol o gyfranwyr ac i roi sylw i amrywiaeth o bynciau megis meithrin arweinyddiaeth, gyrfaoedd yn cael effaith gymdeithasol ac iechyd meddwl yn y sector creadigol.

Croesawyd 14 o westeion ar draws saith pennod ac ychwanegwyd trawsgrifiadau at bob pennod yng nghyfres tri fel y gall rhagor o bobl fwynhau'r sgyrsiau.
Gallwch ddal i fyny â phob pennod yma ?

Headshots of podcast guests in 2021

Dechreuodd ein partneriaeth â threftadaeth CAER o ddifrif mewn dosbarth meistr celf gyda chymunedau Caerau a Threlái ac yna creu llyfr troi gyda stori’r prosiect a grëwyd gan ein Emily Megson, ein myfyriwr ar leoliad.

Ym mis Tachwedd, cyfarfuom â 30 o wirfoddolwyr lleol, aelodau'r tîm a phobl greadigol i ddadorchuddio’n swyddogol ein gosodiad llinell amser sy'n nodi stori a chreadigrwydd y prosiect hyd yma ac sy’n nodwedd ganolog yng nghanolfan treftadaeth gymunedol newydd CAER.

CAER Heritage art installation

Meithrin Cysylltiadau a Phrosiectau Cydweithredol

Drwy gydol y flwyddyn, daeth 200+ o bobl greadigol at ei gilydd ar-lein ar gyfer ein cyfarfod misol newydd Angen! Diwallu’r Angen! Cydweithio! Bwriad y digwyddiadau yw rhannu a dangos cyllid, grantiau a chyfleoedd newydd a sbarduno cydweithio ar draws y sectorau creadigol. Dyma eich barn:

NHC testimonial from Ollie at PDR

Yn 2021, rydym wedi bod yn Cysylltu’r Dotiau ac wedi canfod nad Caerdydd Creadigol yw'r unig rwydwaith.

Mae rhwydweithiau ar draws dinasoedd/trefi fel ni ledled y DU ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn dod i'w hadnabod i gyd yn fwy. Mae wedi bod yn ysbrydoledig iawn. Yn ogystal â threfnu cyfleoedd i'r rhwydweithiau creadigol hanfodol hyn ymgynnull, buom hefyd ymchwilio i'w heffaith a'u gwerth.

Gallwch ddarllen ein hadroddiad llawn 'Cysylltu’r Dotiau' yma.

Joining the Dots logo

As in-person connections are still limited due to COVID-19 restrictions, we knew that being counted, showcasing your creative work and having online ways to search for others to collaborate with was more important than ever.

With our web developers Hoffi, we made some big updates to our network directory to make it even more useful.

We’d encourage you to log-in and update your profile with your portfolio, videos and testimonials.

ART LAB logo

Mae annog cydweithrediadau STEAM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg) yn rhywbeth rydym yn angerddol amdano yng Nghaerdydd Creadigol.

Ym mis Tachwedd, ymunon ni ag adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd i lansio comisiwn ART LAB.

Bydd y darnau newydd o waith, sy'n canolbwyntio ar ymwrthedd gwrthficrobaidd, yn cael eu harddangos fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd yng Nghanolfan Chapter ym mis Chwefror 2022. 

Annog Mentergarwch ac Entrepreneuriaeth

Eleni yn unig, mae 500+ o swyddi wedi bod ar ein tudalen Cyfleoedd, yn dangos ehangder gweithgarwch yr economi greadigol yn y ddinas a'r rhanbarth.

Byddem wrth ein bodd yn gwybod os daethoch o hyd i'ch swydd neu os llwyddoch chi i recriwtio rhywun newydd drwy wefan Caerdydd Creadigol eleni - e-bostiwch eich stori.

Splash graphic which reads spaces

Rydym bob amser wedi dweud bod mannau i feddwl, gwneud, a chyfarfod yn bwysig i bobl greadigol. Yn gynharach eleni, lansiwyd ein hadnodd newydd sy'n rhestru mannau i'w llogi mewn un lle defnyddiol.

Gallwch eu gweld yma.

? Dathlodd Caerdydd Creadigol ei phen-blwydd yn bump oed ym mis Hydref 2020 ac i nodi hyn, rydym wedi casglu barn ar ein gwaith gan rai o'r rheini sydd wedi bod yn bresennol drwy gydol y daith hon ac a gynigiodd eu mewnwelediadau ar gyfer y dyfodol.

Darllenwch y cyhoeddiad Pum Mlynedd yn Ddiweddarach

Diolch am gefnogaeth ac arweiniad ein Grŵp Cynghori, Hoffi, asiantaeth wych ein gwefan a’n dylunio a'n cydweithwyr ysbrydoledig yn y Brifysgol.

Mae eich safbwyntiau, eich sylwadau a'ch syniadau am y rhwydwaith yn bwysig iawn i ni oherwydd heboch chi, y gymuned greadigol, fyddai dim Caerdydd Creadigol. 

Rwy' wrth fy modd yn cael sgwrs felly anfonwch ebost ataf yn suttonv@caerdydd.ac.uk os hoffech ddal i fyny. Byddwn yn cysylltu gyda’n cynlluniau ar gyfer 2022 ym mis Ionawr.

Tan hynny, gan ddymuno diwedd creadigol i’r flwyddyn i chi i gyd.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event