GWAHODDIAD I ROI DYFYNBRIS: Ymchwil Ymgysylltiad â'r celfyddydau

Cyflog
Mae'r cyfle yma yn wahoddiad i roi dyfynbris am y gwaith sydd ei angen. Caiff y taliad a gytunwyd ei dalu mewn 2 ran.
Location
O gartref
Oriau
Other
Closing date
13.08.2021
Profile picture for user TEAM Collective Cymru

Postiwyd gan: TEAM Collectiv…

Dyddiad: 28 July 2021

Ymchwil Ymgysylltiad â’r Celfyddydau: Anghenion, Diddordebau ac Ymddygiadau Cyfranogwyr, Gwneuthurwyr a Chynulleidfaoedd Posibl y Theatr yng Nghymru

Briff

Mae National Theatre Wales (NTW) yn dymuno ymgymryd ag ymchwil sylfaenol i anghenion, diddordebau ac ymddygiadau unigolion yng Nghymru nad ydyn nhw’n cymryd rhan yn y theatr ar hyn o bryd fel cyfranogwyr, gwneuthurwyr neu gynulleidfaoedd (‘rhai nad ydyn nhw’n mynychu’). Bydd yr ymchwil hon yn nodi pa segmentau demograffig sy’n llai tebygol o gymryd rhan ac yn ceisio rhesymau y tu ôl i’r diffyg ymgysylltiad hwn. Bydd hefyd yn nodi’r hyn a allai ddenu’r rhai nad ydyn nhw’n mynychu i ymgysylltu, ac yna parhau i ymgysylltu’n fwy aml a dwys. Yn hanfodol, bydd yn tynnu sylw at ba rwystrau a allai fodoli i gyfyngu ar brofiadau theatr rhai unigolion, gan gynnwys canfyddiadau gwahanol o theatr ar draws gwahanol segmentau demograffig.

Bydd yr ymchwil hon yn llywio Cynllun Strategol 2022-2025 NTW, a bydd yr adroddiad cryno hefyd ar gael i’r cyhoedd gyda’r bwriad o ddarparu cipolwg ar ymgysylltiad â’r theatr yng Nghymru. Y nod yw ailadrodd hyn yn flynyddol, er bod y tendr hwn ar gyfer darn annibynnol o ymchwil.

Trwy ddysgu anghenion, diddordebau ac ymddygiadau’r rhai nad ydyn nhw’n mynychu yng Nghymru, rydym yn gobeithio datblygu ein gweithgarwch i ymestyn ei gyrhaeddiad a’i effaith yn well. Bydd hefyd yn caniatáu i ni ac eraill ateb y galw amlwg, nodi bylchau yn y ddarpariaeth ac osgoi gorgyffwrdd ar draws y sector.

Amserlen a Ffi

Rydym yn rhagweld y bydd yr ymchwil yn dechrau ganol Awst 2021 a rhaid i’r adroddiad cryno fod ar gael erbyn 17 Medi 2021. Hoffem wahodd dyfynbrisiau ar gyfer ymgymryd â’r ymchwil i’r farchnad hon. Telir y ffi y cytunir arni mewn dau randaliad – 60% ar ddechrau’r prosiect a 40% ar ôl ei gwblhau. Byddwn yn ystyried ystod o opsiynau prisio yn eich dyfynbris, a allai gynnwys newidynnau megis nifer yr ymatebwyr y byddwch yn eu harolygu a’r nifer uchaf o gwestiynau y byddwch yn eu gofyn.

Dyddiad Cau: 5pm (BST), dydd Gwener 13 Awst 2021.

Sut i wneud cais

Dadlwythwch y briff llawn ar ein wefan.

Cyflwynwch ddyfynbris, ynghyd â disgrifiad byr ohonoch chi/eich asiantaeth a gwybodaeth am o leiaf un enghraifft o brosiect ymchwil poblogaeth rydych chi wedi’i gynnal yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Byddem hefyd yn croesawu unrhyw wybodaeth am sut y byddwch chi / eich asiantaeth yn cyrchu ymatebwyr sy’n byw yng Nghymru sy’n gweddu i’r segmentau demograffig fel yr amlinellwyd uchod.

Cyflwynwch y wybodaeth hon ar ffurf un ddogfen os gwelwch yn dda, er bod croeso i chi gynnwys unrhyw ddogfennau ategol neu hyperddolenni perthnasol.

Dylid anfon cyflwyniadau, wedi’u marcio â’r pennawd pwnc ‘Dyfynbris Ymchwil Ymgysylltiad â’r Celfyddydau’ i’r cyfeiriad e-bost canlynol: info@nationaltheatrewales.org

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi National Theatre Wales.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.