Un ymateb o'r fath yw The Ogs. Ganwyd The Ogs o'r angen i roi bywyd newydd i ddillad sydd wedi’u gwisgo at yr edau a ffabrigau ail law. Maen nhw'n teimlo fel anrheg a ddaeth un diwrnod ac nad ydynt wedi gadael ers hynny. Maen nhw wedi fy helpu i ddatblygu agwedd fwy cynaliadwy tuag at fywyd, ac am hynny rwy'n ddiolchgar iawn.
Mae'r stori troi lluniau hon a'r trac sain sy'n cyd-fynd â hi yn mynd â chi ar daith ddychmygus i le ysbrydoledig a elwir yn lleol fel The Deeps. Mae creigiau garw, toredig a thywydd stormus gwyllt yn arwain at brofiadau synhwyraidd diddorol wrth i chi gerdded ar hyd y rhan hon o lwybr yr arfordir. Oherwydd erydiad arfordirol, mae'r môr yn creu holltau, toriadau ac ogofâu yn wyneb y clogwyn. Gellir clywed sŵn y môr yn y mordyllau suddedig sydd wedi codi ymhellach i mewn i’r tir. Mae The Ogs yn mynd â ni ar daith ddychmygus, archwiliadol gan eu bod unwaith eto yn ein helpu i osod ein hunain mewn natur.