Yn siarad yn y digwyddiad roedd:
-
Mae Ruth Wootton yn Hyfforddwr Gyrfaoedd ac yn Arbenigwr Gwydnwch. Bydd yn rhannu gwybodaeth am ei Gweminarau Gwydnwch Gyrfaoedd ac yn cynnig nifer o leoedd am ddim i unigolion a sefydliadau ledled y Gymuned Greadigol sydd â diddordeb mewn dysgu mwy.
- Bydd Catalina Dumbraveanu, Rheolwr Prosiect Arloesi’r Cyfryngau yn The Vrije Universiteit Brussel yn rhannu gwybodaeth am fenter Stars4Media sy’n cefnogi mentrau cydweithredol a ddatblygwyd gan o leiaf dau sefydliad cyfryngau o ddwy wlad wahanol yn yr UE (gan gynnwys y DU). Maent yn chwilio am gyfranogwyr sy'n weithwyr proffesiynol yn y cyfryngau (“sêr y dyfodol ” ifanc yn bennaf, ynghyd â'u huwch fentoriaid dewisol - pob un yn gymwys i gael grant), sydd â diddordeb mewn cydweithredu o amgylch 'Mentrau' Stars4Media.
Gallwch ddarganfod mwy am y ddau gyfle trwy ddilyn y dolenni uchod.
Ymhlith y cyfleoedd a rannwyd o'r gymuned roedd:
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cynnig cyrsiau am ddim i ddatblygu neu newid gyrfa gyda llawer o gyrsiau'n cynnig sgiliau ymarferol ar gyfer gyrfaoedd creadigol. Cewch ragor o wybodaeth yma.
- I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Christopher Duffy: CDuffy@cavc.ac.uk. Mae Chris hefyd yn awyddus i greu cyswllt ag unrhyw sefydliad sydd â diddordeb mewn recriwtio prentis newyddiadurol iau.
- Rhannodd Connor Allen, sy'n cynrychioli Gweithwyr Llawrydd Diwylliannol Cymru: Dros yr wythnosau nesaf wrth i ni fynd ati i adeiladu a chyfnerthu nodau a gwerthoedd Gweithwyr Llawrydd Diwylliannol Cymru, rydym ni'n gofyn i weithwyr llawrydd ymuno â sesiwn â thâl (£25 yr awr) i gynnig meddyliau, cwestiynau a syniadau i helpu i adeiladu ein sefydliad cyfunol newydd. Fel gweithwyr llawrydd sy'n gweithio ac yn gweithredu yng Nghymru, pa newidiadau ydych CHI am eu gweld? Beth sydd ei angen arnoch CHI? Rydym ni'n awyddus iawn i'r nodau a'r credoau craidd ddod gan y gweithwyr llawrydd o bob rhan o Gymru sy'n gweithio yn y sector hwn. Dyma'r ddolen at y ffurflen gofrestru: https://docs.google.com/forms/d/1nmcZbtmaz1bLCX7-swBjz5BOnJWjb1CxvIrsAMrfTYw/edit
- Rhannodd Tom Barker, o PQA Caerdydd eu bod yn chwilio am athro theatr gerddorol i weithio yn eu hacademïau. Ceir gwybodaeth lawn am y swydd yma.
- Mae ceisiadau Galwad Agored Clwstwr yn agor ar 15 Ebrill 2021 am syniadau newydd ar gyfer cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau yn y sectorau sgrin a newyddion yn Ne Cymru. Rhagor o wybodaeth a threfnu cyfarfod un i un: https://clwstwr.org.uk/open-call-2021. Os oes gennych gwestiwn, ebostiwch clwstwrcreadigol@caerdydd.ac.uk.
- Rhannodd Stifyn Parri, ymgynghorydd BAFTA, fod enwebiadau ar gyfer Gwobrau'r Academi Brydeinig Cymru ar agor nawr: https://www.bafta.org/wales. Hefyd dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn dechrau yn y diwydiant teledu, ffilm a gemau edrych ar Guru Live Online - http://guru.bafta.org/guru-live-online-spring am ddim o 4 Mai ymlaen!
- Brand ffordd o fyw a dillad ail law yw People of Doom sy'n ceisio newid y ffordd rydym ni'n defnyddio pethau. Rydym ni'n edrych am bobl i rannu ein stori, er mwyn codi ymwybyddiaeth o orddefnydd amgylcheddol a chymdeithasol ac ehangu ymwybyddiaeth o'n busnes i helpu i frwydro hyn. Rydym ni'n awyddus i gydweithio ar brosiectau creadigol, cyfweliadau, unrhyw newyddiaduraeth, fideos cerddoriaeth ac ati, unrhyw beth y gallwch ei gynnig i gydweithio arno - rydyn ni'n barod i fynd! Ebostiwch ni: peopleofdoom2020@gmail.com
- Mae Cynlluniau Prentisiaeth a Hyfforddeion y BBC wedi'u lansio – ceir rhagor o wybodaeth yma: https://www.bbc.co.uk/careers/trainee-schemes-and-apprenticeships. Mae croeso i chi gysylltu gydag unrhyw gwestiynau drwy @hiringluke ar Twitter neu ebost luke.richardson@bbc.co.uk.
Cynhelir yr Angen! Diwallu’r Angen! Mae Cydweithio! ar 6 Mai am 2pm - gallwch archebu'ch lle yma.