Swyddog Marchnata Sinema Cynhwysol

Cyflog
Ffi: £3000 yn cynnwys TAW
Location
Hyblyg (gweithio o bell)
Oriau
Fixed term
Closing date
15.03.2021
Profile picture for user Toki

Postiwyd gan: Toki

Dyddiad: 2 March 2021

Contract: Tymor sefydlog (amc. 20 diwrnod Mawrth-Mai) 

Gofynion  

Ychwanegol:  Gweithiwr llawrydd angen cyfrifiadur ei hun (ni ddylid fod angen talu am feddalwedd) 

Atebol i:  Swyddog Mynediad FAN, Canolfan Ffilm Cymru  

(Chapter Caerdydd)   

Briff 

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn chwilio am swyddog marchnata llawrydd i gefnogi Swyddog Mynediad FAN gyda chodi ymwybyddiaeth o  Sinema Cynhwysol, prosiect Amrywiaeth a Chynhwysiant Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI. Fe ddylai’r gweithiwr llawrydd feddu ar arbenigedd mewn cyfryngau digidol, a phrofiad o ddefnyddio Wordpress, Mailchimp a Twitter, ac yn hyderus wrth siarad gydag arddangoswyr sinema o bob ffurf a maint, y wasg a’r cyfryngau, boed ar y ffôn neu ar-lein. Byddwn yn disgwyl i’r gweithiwr llawrydd feddu ar ddealltwriaeth ac angerdd dros gynhwysiant ac yn ddelfrydol, fe fydd y contract yma yn cael ei chwblhau gan rhywun sydd â phrofiad byw o amrywiaeth. 

Darparu 

  • Cyhoeddi a hyrwyddo adnoddau Sinema Cynhwysol, yn cynnwys y cyhoeddiad diweddaraf ‘Dismantling Structural Inequality in Your Cinema’ gan Sadia Pineda Hameed. Fe fydd y gweithiwr llawrydd yn cysylltu gyda’r wasg , yn ymgysylltu gyda phartneriaid cyfryngau a gyda’r 1500+ o aelodau FAN, 

  • Tynnu sylw at adnoddau sydd yn cysylltu gyda dyddiadau ymwybyddiaeth perthnasol, yn cynnwys Mis Ymwybyddiaeth  Awtistiaeth y Byd, ac Wythnos Ymwybyddiaeth y Byddar, 

  • Ymchwilio cynnwys, ysgrifennu ac anfon newyddlen Sinema Cynhwysol i danysgrifwyr, 

  • Casglu a chyoeddi 10+ o astudiaethau achos byr am brosiectau sinema wedi’u harawin gan amrywiaeth i lwyfan Sinema Cynhwysol mewn cydweithrediad gydag aelodau FAN, 

  • Cyfrannu at lwyfan Twitter Sinema Cynhwysol, 

  • Casglu data/gwybodaeth ddadansoddol marchnata i gyfrannu ar adrodd ar brosiectau . 
     

Profiad 

  • Deallwtiaeth ddofn o amrywiaeth a chynhwysiant, sut mae cynhwysiant yn gweithio yn ymarferol ac eiriolaeth profedig dros gynulleidfaoedd ymylol, 

  • Dealltwriaeth a phrofiad gwaith diweddar yn y sector arddangos ffilm DU, 

  • Gwybodaeth a phrofiad marchnata crwn ar draws cyfryngau digidol a phrint, 

  • Dull cyfathrebu hyderus  

Cefnogaeth 

  • Fe fyddwn yn cyllido o leiaf un cyfle hyfforddi i’r gweithiwr llawrydd, 

  • Fe fydd y gweithiwr llawrydd yn cysylltu gyda phob canolfan ffilm rhanbarthol  a’r aelodaeth ehangach i gefnogi datblygiad eu rhwydwaith, 

  • Rydym wedi ymrwymo i gefnogi anghenion mynediad ac fe fyddwn yn cydweithredu gyda’r gweithiwr llawrydd i gefnogi arferion gwaith gorau iddyn nhw (o amgylch niwroamrywiaeth, anabledd, cyfrifoldebau gofal, gofynion iechyd meddwl etc) 

Diddordeb? 

  • E-bostiwch toki@filmhubwales.org i ddatgan diddordeb a chyflwyno eich portffolio/CV (ysgrifenedig, fideo, fformatau sain yn dderbyniol) gyda geirda erbyn, erbyn 6pm Llu, 15 Mawrth 2021, 

  • Unrhyw gwestiynau neu sgwrs am y contract, cysylltwch gyda Toki Allison (Swyddog Mynediad FAN) drwy e-bost neu ffôn 07866 451949, 

  • Ni fydd angen cyfweliadau ffurfiol er y gallwn eich ffonio am sgwrs  

  • Fe fyddwn yn dewis yr wythnos honno ac yn edrych ar gychwyn yn weddol sydyn. 

Diolch am eich diddordeb. 

inclusivecinema.org  |  @InclusiveCinema  

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.