Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi’i heffeithio’n sylweddol gan bandemig y Coronafeirws, a caewyd ein drysau ym mis Mawrth 2020. Mae ein hadeilad yn parhau i fod ar gau, ond rydym yn gobeithio ailagor yn y dyfodol agos ac y bydd modd i ni greu refeniw masnachol unwaith yn rhagor. Rydym wedi derbyn cyllid brys i’n helpu ni oroesi’r argyfwng a’n helpu ni weithredu’n hamcanion er gwaetha’r diffyg refeniw masnachol.
Er bod pandemig y Coronafeirws wedi cau ein theatr a’n hadeilad, rydym yn gweithio’n galed tu ôl i ddrysau caeedig, er mwyn cadw’r celfyddydau’n fyw.
Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Rydyn ni’n chwilio am Cynhyrchydd Cynorthwyol Ymgysylltu a’r Gymuned i darparu cefnogaeth i gyflwyno Rhaglen Ymgysylltu â'r Gymuned Canolfan y Mileniwm. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’r Uwch Gynhyrchydd Ymgysylltu â'r Gymuned i sicrhau ein bod yn ymgysylltu â chymunedau ac yn rhoi’r cyfle iddynt gyfathrebu â ni a chael llais yn y gwaith rydym yn ei sefydlu.
Bydd y rôl yn canolbwyntio ar roi llais i’r cymunedau gyda ffocws penodol ar y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y celfyddydau. Byddwch, yn benodol, yn ein cefnogi i gyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau yn ein Mannau Cyhoeddus , gan baratoi ar gyfer ein Harddangosfa Lleisiau Dros Newid, gorymdaith lanternau ac ailagor y Ganolfan yn nes ymlaen yn 2021.
Byddwch hefyd yn cefnogi gyda chynyddu gwirfoddoli, datblygu ein gardd gymunedol ac adeiladu ‘Bancio Amser’ i'r gwaith sydd yn cael ei wneud yn y Ganolfan.
Bydd y rôl yn cefnogi’r Ganolfan i gyflawni ei bedwar prif amcan - creu gwaith arloesol sy'n arddangos Cymru i'r byd, cynyddu mynediad i'r celfyddydau i bawb, codi dyheadau pob person ifanc yng Nghymru a chyflwyno'r Ganolfan fel un o sefydliadau celfyddydol blaenllaw’r byd.
Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio ochr yn ochr â'r tîm Celfyddydau a Chreadigol ehangach ac ar draws y busnes cyfan, gan gysylltu aelodau'r gymuned â chyfleoedd sy'n bodoli.
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod y gwaith sy’n cael ei ddatblygu yn gynrychioliadol o'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Bydd yn annog lleisiau newydd i gymryd rhan a rhoi eu barn ynglŷn â sut mae gwaith yn cael ei ddatblygu yn y Ganolfan.
Bydd y rôl hon yn adrodd i'r Uwch Gynhyrchydd Ymgysylltu â'r Gymuned.
Am fwy o fanylion, plîs ewch i ein wefan: https://www.wmc.org.uk/cy/troedyn/gyrfaoedd/
“Rydyn ni’n croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os ydych chi’n ymgeisio am swydd yn y Ganolfan yn Gymraeg, ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi’i gyflwyno yn Saesneg”