Cyfrifydd Cynhyrchu

Cyflog
£24,000 - £28,000
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
11.12.2020
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 3 December 2020

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi’i heffeithio’n sylweddol gan bandemig y Coronafeirws, a caewyd ein drysau ym mis Mawrth 2020. Mae ein hadeilad yn parhau i fod ar gau, ond rydym yn gobeithio ailagor yn y dyfodol agos ac y bydd modd i ni greu refeniw masnachol unwaith yn rhagor. Rydym wedi derbyn cyllid brys i’n helpu ni oroesi’r argyfwng a’n helpu ni weithredu’n hamcanion er gwaetha’r diffyg refeniw masnachol. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys ariannu’r rôl hwn am 12 mis. Ar ddiwedd y 12 mis gobeithiwn y bydd modd i ni ariannu swydd barhaol drwy’n refeniw masnachol.

Er bod pandemig y Coronafeirws wedi cau ein theatr a’n hadeilad, rydym yn gweithio’n galed tu ôl i ddrysau caeedig, er mwyn cadw’r celfyddydau’n fyw.

Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Rydyn ni’n chwilio am Cyfrifydd Cynhyrchu I ymuno a’n tim Cyllid.  Fel aelod allweddol o’r tîm cyllid, byddwch yn cefnogi’r tîm cyfan, yn ogystal â chymryd cyfrifoldeb dros dasgau busnes penodol. Byddwch yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm ond hefyd yn gallu gweithio’n annibynnol. Byddwch yn bartner ar agweddau penodol o’r busnes ac yn cyd-weithio’n agos â’r Uwch Gyfrifydd Cynyrchiadau, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth gyllidol gywir yn cael ei baratoi a’i ddeall gan y busnes.

Am fwy o fanylion, plîs ewch i ein wefan: https://www.wmc.org.uk/cy/troedyn/gyrfaoedd/ 

“Rydyn ni’n croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os ydych chi’n ymgeisio am swydd yn y Ganolfan yn Gymraeg, ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi’i gyflwyno yn Saesneg”

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.