Mewn partneriaeth gyda Cyngor Caerdydd, rydyn ni'n eisiau comisiynu artist o Gaerdydd i greu croesfan unigryw ar gyfer Heol Ddwyreiniol y Bontfaen yn Nhreganna.
Mae’r prosiect yn rhan o gyfres o welliannau gan Gyngor Caerdydd, a’r bwriad yw bod y gwaith celf fydd yn cael ei gomisiynu yn ychwanegiad mentrus a bywiog i’r lleoliad ac yn darparu man diogel i bobl groesi ardal brysur iawn ar Heol Ddwyreiniol y Bontfaen.
Byddwn yn creu rhestr fer o dri artist fydd yn cael gwahoddiad i ddatblygu’r brîff hyd at ddylunio ar gyfer y lleoliad. Bydd disgwyl i’r gwaith celf a gynigir roi sylw penodol i ddiwylliant, hanes a phensaernïaeth lleol Treganna a bydd cefnogaeth yn cael ei roi gan Ganolfan Celfyddydau Chapter i ddatblygu’r syniadau ochr yn ochr â’r brîff gan Gyngor Caerdydd.
Bydd y tri artist ar y rhestr fer yn derbyn ffi o £500 yr un am eu gwaith.
Bydd dyluniadau’r tri artist ar y rhestr fer yn cael eu cyflwyno mewn ymgynghoriad i’r gymuned leol fydd yn dewis y gwaith celf terfynol ym mis Rhagfyr eleni ar gyfer cwblhau’r gwaith yn gynnar yn 2021.
Pwy all wneud cais: artistiaid sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd.
Sut i wneud cais: cwblhewch y ffurflen gais fer a’i chyflwyno, ynghyd â’r Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal, a dim mwy na chwech enghraifft o’ch gwaith diweddar i: Catherine.Angle@chapter.org
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: Dydd Mercher, 14 Hydref am 5pm
Dewis: bydd y tri artist ar y rhestr fer yn cael gwybod dim hwyrach na dydd Llun 19 Hydref. Bydd disgwyl iddyn nhw gyflwyno eu cynnig terfynol ar gyfer y dyluniad ar ddydd Llun 16 Tachwedd.
Panel dewis: Hannah Firth, Cyfarwyddwr y Rhaglen, Chapter; Jude Lau, Co-founder and Workshop Manager, Printhaus, and representatives from Cardiff Council
Gwybodaeth: Os oes unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy am y comisiwn ebostiwch Catherine.Angle@chapter.org
Lawrlwythwch Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal