Galwad agored i artistiaid wedi’u lleoli yng Nghaerdydd! - Chapter

Cyflog
£500
Location
Caerdydd
Oriau
Other
Closing date
14.10.2020
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 27 September 2020

Mewn partneriaeth gyda Cyngor Caerdydd, rydyn ni'n eisiau comisiynu artist o Gaerdydd i greu croesfan unigryw ar gyfer Heol Ddwyreiniol y Bontfaen yn Nhreganna.  

Mae’r prosiect yn rhan o gyfres o welliannau gan Gyngor Caerdydd, a’r bwriad yw bod y gwaith celf fydd yn cael ei gomisiynu yn ychwanegiad mentrus a bywiog i’r lleoliad ac yn darparu man diogel i bobl groesi ardal brysur iawn ar Heol Ddwyreiniol y Bontfaen.  

Byddwn yn creu rhestr fer o dri artist fydd yn cael gwahoddiad i ddatblygu’r brîff hyd at ddylunio ar gyfer y lleoliad. Bydd disgwyl i’r gwaith celf a gynigir roi sylw penodol i ddiwylliant, hanes a phensaernïaeth lleol Treganna a bydd cefnogaeth yn cael ei roi gan Ganolfan Celfyddydau Chapter i ddatblygu’r syniadau ochr yn ochr â’r brîff gan Gyngor Caerdydd.  

Bydd y tri artist ar y rhestr fer yn derbyn ffi o £500 yr un am eu gwaith.

Bydd dyluniadau’r tri artist ar y rhestr fer yn cael eu cyflwyno mewn ymgynghoriad i’r gymuned leol fydd yn dewis y gwaith celf terfynol ym mis Rhagfyr eleni ar gyfer cwblhau’r gwaith yn gynnar yn 2021.

Pwy all wneud cais: artistiaid sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd.

Sut i wneud cais: cwblhewch y ffurflen gais fer a’i chyflwyno, ynghyd â’r Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal, a dim mwy na chwech enghraifft o’ch gwaith diweddar i:  Catherine.Angle@chapter.org

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: Dydd Mercher, 14 Hydref am 5pm

Dewis: bydd y tri artist ar y rhestr fer yn cael gwybod dim hwyrach na dydd Llun 19 Hydref. Bydd disgwyl iddyn nhw gyflwyno eu cynnig terfynol ar gyfer y dyluniad ar ddydd Llun 16 Tachwedd.

Panel dewis: Hannah Firth, Cyfarwyddwr y Rhaglen, Chapter; Jude Lau, Co-founder and Workshop Manager, Printhaus, and representatives from Cardiff Council

Gwybodaeth: Os oes unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy am y comisiwn ebostiwch Catherine.Angle@chapter.org

Lawrlwythwch Ffurflen Gais

Lawrlwythwch Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.