'My Social Distant Family' in lockdown
'My Social Distant Family' after lockdown
Mae ‘My social distant family’ yn brosiect sy’n canolbwyntio ar y pellter rydym wedi gorfod ei gadw o’n hanwyliaid yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae wedi bod yn gyfnod anodd i bawb ledled y byd, nid dim ond yng Nghaerdydd. Y diwrnod y gwelais i fy mam ar ôl amser hir y sylweddolais i cymaint mae’n effeithio ar bobl. Roedd hi’n anodd iawn methu â’i chofleidio na rhoi cusan iddi, ac ni fydd modd i rai pobl wneud hyn byth eto. Gyda’r prosiect hwn, roeddwn i am ddangos a mynegi’r sefyllfa mae pawb wedi bod ynddi, gan ddangos yr emosiwn gwirioneddol mae pobl wedi’i deimlo yn ystod y cyfnod hwn yn ein hanes diweddar. Mae pawb wedi profi emosiynau cryf yn ystod y cyfyngiadau symud, ac mae pawb wedi gorfod edrych am i mewn ar adegau mewn rhyw fath o ffordd ysbrydol. Mae’r profiad wedi cael effaith ddwys ar bobl ledled Caerdydd. Rydym wedi gorfod plygu mewn gweddi a gobeithio y bydd pethau’n gwella. Mae pobl wedi colli anwyliaid, heb hyd yn oed allu dweud ffarwel. Mae pawb yn adnabod rhywun neu wedi cwrdd â rhywun y mae hyn wedi cael effaith ddofn arnynt, ac mae cymunedau wedi dod ynghyd i gefnogi ei gilydd fel un teulu mawr.
Gwelwyd cryn dipyn o ddaioni yn ystod y cyfnod hwn....
Pob dymuniad da i gymunedau Caerdydd sydd wedi dod ynghyd...mae pawb yn perthyn i’w gilydd. Gobeithio y bydd hynny’n parhau...
Disgrifiad clywedol wedi'i ddarllen gan Martyn Wilson:
I wybod mwy am Martyn Wilson a chrëwyr eraill y prosect Ein Caerdydd creadigol 2020, cliciwch yma.