Dathlu Dydd Miwsig Cymru

Profile picture for user Alys Jones

Postiwyd gan: Alys Jones

Dyddiad: 16 February 2018

Dathlwyd Dydd Miwsig Cymraeg ar draws Gymru ar Ddydd Gwener 9 Chwefror. Wedi'i henwi yn Ddinas Cerddoriaeth yn ddiweddar, cafodd sawl digwyddiad eu cynnal yn y brifddinas megis digwyddiad diwrnod Twrw a Chlwb Ifor Bach yn Castle Emporium. Mae’r diwydiant miwsig yng Nghymru yn fywiog ac yn amrywiol – mae ffigurau arbennig wed’i rhyddhau gan Spotify i ddathlu’r diwrnod yn dangos bod pobl wedi gwrando ar 1.3 miliwn o oriau o fiwsig gan artistiaid gyda deunydd Cymraeg yn 2017 - sy'n golygu, petai'r botwm 'gwrando' yn cael ei bwyso heddiw, na fyddai'r miwsig yn gorffen tan 5 Gorffennaf 2166 – 148 mlynedd yn y dyfodol!

Fe wnaeth sawl hyrwyddwr megis Sŵn, BBC Horizons, Prosiect Forté gynnal gigs yn rhad ac am ddim gan artistiaid newydd yn ogystal â rhai eiconig gan gynnwys Chroma, Adwaith, Meic Stevens, Los Blancos a Eädyth yng Nghaerdydd, Abertawe, Bangor, Caernarfon a Phwllheli a mor bell â Brooklyn a Budapest. Cafodd pob math o fiwsig Cymraeg ei ddathlu mewn mannau cerdd, ysgolion, canolfannau galw, archfarchnadoedd a mwy.

Yn ôl Spotify y pum artist mwyaf poblogaidd  yw Gwenno, Yws Gwynedd, Bryn Fôn, Al Lewis a Sŵnami, gyda’r artistiaid dwyieithog sydd wedi denu mwyaf o wrandawyr yw The Joy Fomidable, Super Furry Animals, Cate le Bon, Catatonia ac Iwan Rheon. Dangosodd Shazam mai’r artistiaid Cymraeg oedd wedi’u Shazamo fwyaf llynedd oedd Catatonia, Super Furry Animals, Gwenno, Casi ac Yws Gwynedd gyda Bryn Fôn, Meic Stevens, Dafydd Iwan, Omaloma ac Elin Fflur yn cwblhau’r 10 uchaf.

Meddai’r DJ Radio 1, Huw Stephens, llysgennad am y diwrnod: “Beth bynnag wyt ti’n hoffi, mae Dydd Miwsig Cymru’n ddydd i dy helpu i ganfod y miwsig y byddi’n ei garu.  Efallai dy fod eisoes yn gwrando ar fiwsig Cymraeg neu efallai nad wyt wedi gwrando arno ers blynyddoedd. Mae yna gymysgedd anhygoel o bron iawn pob genre yn Gymraeg – mae hyd yn oed rhestrau chwarae gwych i’w rhannu gyda dy ffrindiau a dy deulu efallai nad ydyn nhw’n gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg. Profa rywbeth ac efallai y byddi di’n canfod dy hoff sain newydd."

Mae synau newydd sbon wedi eu rhyddhau’n arbennig ar Ddydd Miwsig Cymru gan gynnwys ‘Y Gwyfyn’, EP newydd sy’n gyfan gwbl yn Gymraeg ac yn cynnwys The Gentle Good ar Recordiau Bubblewrap a enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ddiweddar. Mae Recordiau Cae Gwyn o Eryri’n rhyddhau ‘Casgliad Cae Gwyn’, cymysgedd rhydd o ofod-pop, gwerin amgen, gitâr glasurol a grynj, gyda Tom Ravenscroft o BBC 6 Music a Gideon Coe eisoes yn chwarae Cysawd yr Haul gan A(n)naearol, band o Ynys Môn sydd â’i aelodau’n dal yn yr ysgol.

Mae chwe rhestr chwarae arbennig wedi’u hel at ei gilydd gan y DJ Gareth Potter, cyn aelod o fandiau’n cynnwys Tŷ Gwydr, sydd hefyd wedi adrodd, ddegawd wrth ddegawd, Hanes Cerddoriaeth Cymraeg Cymru wedi’i animeiddio.  Mae’r hanes yn adrodd stori’r sîn dros y 60 mlynedd diwethaf ac mae’n cynnwys protest, gwrthryfela, hedonistiaeth ac albymau a ddaeth i’r brig, ac mae’n cael ei rannu ar lein a chydag ysgolion.

Er mwyn dathlu artistiaid Cymraeg, mae cyfres o bortreadau graffiti enfawr o artistiaid hanesyddol a modern yn cael eu harddangos yn nhrefi cartref saith artist gyda storiâu sy’n rhoi cyd-destun i'w gyrfaoedd: Gruff Rhys (Hwlffordd), Datblygu (Aberteifi), Kizzy Crawford (Aberdâr), Elin Fflur (Môn), 9Bach (Bethesda), Candelas (Y Bala) ac Yws Gwynedd (Caernarfon) sydd wedi cael ei fiwsig wedi ei ffrydio am bron i filiwn o funudau ar Spotify yn 2017.

Meddai seren Hollywood a gafodd ei eni yn Hwlffordd, Rhys Ifans, a oedd yn ganwr blaen y Super Furry Animals am ychydig cyn iddyn nhw gyrraedd y siartiau mawr, a hefyd yn ganwr blaen y grŵp seico-roc Y Peth, wrth sôn am fiwsig Cymraeg: “Mae’n sîn amrywiol – mae yna bopeth o fiwsig gwerin gwallgof i bobl sydd ar ymylon greim. Mae’n gloddfa gyfan-gwbl gyfoethog, o aur y byd miwsig ac mae yma, ar stepen dy ddrws. “Cer i chwilio”:

Mae’r diwrnod yn rhan o weledigaeth tymor hir i gael miliwn o bobl yn siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg erbyn 2050.  Taena’r cariad a’r miwsig gan ddefnyddio’r hashtag #DyddMiwsigCymru #WelshLanguageMusicDay.  Mae’r rhestrau chwarae i’w cael ar http://cymraeg.gov.wales/DyddMiwsigCymru/Cynnwys/Playlists/?lang=en.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event