Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng Huw Thomas, a fydd yn siarad yn y digwyddiad:

Diolch am y cyfle i ymuno hefo chi heno. ‘Dw i’n falch o fod yma.

Mae’n bleser mawr gen i fod yma heno yn trafod cerddoriaeth yng Nghaerdydd oherwydd, i fod yn onest, heb gerddoriaeth ni fyddwn i’n sefyll yma heddiw yn siarad â chi fel Arweinydd. Yn ffodus iawn, a diolch yn fawr i fy rhieni, ces i’m magu ar aelwyd gerddorol. Roedd cerddoriaeth yn rhywbeth a oedd o gwmpas o hyd. 

Dysgais i fod angen ymarfer yn iawn a rhoi’r ymdrech i mewn i ddod yn dda wrth chwarae’r piano, a’r gitâr fas, a dysgais i fod angen ychydig o ddisgyblaeth os ydych chi am gyflawni pethau yn eich bywyd. 

Y profiad o fynd ar gwrs cerddorfa preswyl – y band camp – a roddodd yr hyder i mi mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a roddodd ffrindiau oes i mi. 

Trwy gyfrwng cerddoriaeth y gwnes i ffurfio fy syniadau gwleidyddol cyntaf. ‘Dw i’n cofio canu mewn sioe gerdd am fudiad y Siartwyr yng nghanolbarth Cymru a dilyn bandiau fel y Manics, sy’n rhoi persbectif gwleidyddol nad fyddech chi’n ei gael yn unrhyw le arall mewn diwylliant yn 13 neu 14 oed. 

Caru cerddoriaeth a aeth â mi i’r brifysgol, ac ehangu fy ngorwelion mewn ffordd na ddychmygais i, fel bachgen o Orllewin Cymru, o’r blaen. 

A phan symudais i Gaerdydd ddeng mlynedd yn ôl heb adnabod unrhyw un yn y ddinas, ymuno â chôr a roddodd y rhwydwaith cymdeithasol cyntaf i mi. 

Heddiw, mewn swydd sy’n eitha’ heriol ac yn cymryd llawer o amser, cerddoriaeth – boed hynny ar radio yn y swyddfa, yn y neuadd gyngerdd neu yn y dafarn – sy’n rhoi’r amser i chi roi pethau mewn persbectif, i brosesu beth sy’n digwydd ac sy’n rhoi’r gofod creadigol i feddwl am beth sydd angen i ni ei wneud nesaf fel gweinyddiaeth.

Ac felly, yr holl bethau sydd wedi f’arwain i yma heddiw yw’r union reswm rydw i mor falch o gyhoeddi ein bod ni’n gweithio gyda Sound Diplomacy. Maen nhw’n arweinwyr rhyngwladol sy’n datblygu strategaethau cerddoriaeth, ac fel dywedodd Peter, wedi gweithio gyda dinasoedd megis Barcelona, Berlin a Llundain, i sicrhau bod Caerdydd yn cyfiawnhau’r enw sydd ganddi fel dinas gerdd gyntaf y DU.

Dyna pam rwy’n falch iawn o gyhoeddi heddiw y byddwn yn gweithio gyda “Sound Diplomacy”, arweinwyr rhyngwladol ar gyfer datblygu strategaethau cerddoriaeth, sydd wedi gweithio gyda dinasoedd fel Barcelona, Berlin a Llundain ar ein cynlluniau i wneud Caerdydd yn ‘Ddinas Gerdd’ gyntaf y DU.

Dinas Gerdd

I Gaerdydd a Chymru, mae diwylliant a chreadigrwydd ymhlith ein cryfderau mwyaf.

Ymhlith ein lleoliadau proffil uchel mae: Canolfan Mileniwm Cymru; Neuadd Dewi Sant; Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a’r Stadiwm.  

Mae’r Tramshed, ac wrth gwrs, mae gennym Stryd Womanby ymhlith rhai eraill, mae llawer ohonyn nhw’n ymddangos ar ‘Mintys Gig Guide to Cardiff’ – da iawn Minty (this will get a big cheer)/

Hoffwn ddiolch i’n ffrindiau da yn yr Ymgyrch Save Womanby Street am ysgogi pobl Caerdydd a De Cymru i ddod allan i gefnogi cerddoriaeth fyw.  

Dros y misoedd diwethaf, ‘dw i’n credu bod y Cyngor wedi gwrando ac wedi dangos ymrwymiad go iawn i amddiffyn Stryd Womanby a sîn cerddoriaeth y ddinas.  

‘Dw i hefyd yn falch o gael deud bod fy ngweinyddiaeth yn helpu Clwb Ifor Bach i ehangu i fod yn lleoliad â lle ar gyfer 500 o bobl. 

‘Dyn ni ddim am stopio’n fanno.  Mae fy ngweinyddiaeth wedi ymrwymo i gyflawni Arena Mewnol sy’n dal 15,000 o bobl fel y gallwn barhau i ddod â’r perfformwyr rhyngwladol gorau i Gymru.

Mae gennym hefyd ddigwyddiadau a gwyliau, Sŵn, Hwb, Cerddor y Byd Caerdydd, ac ym mis Mehefin byddwn yn cynnal Gŵyl y Llais arall.

Rwy’n gwybod bob wythnos bod hyrwyddwyr yn gweithio’n galed i gyflwyno bandiau a pherfformwyr i’n dinasyddion ac ymwelwyr fwynhau.

Gobeithiwn y bydd y gwaith hwn yn denu mwy o brif gynadleddau a digwyddiadau cerddoriaeth i’r ddinas.

Yn ogystal â chynnal enwogion cerddoriaeth, mae Caerdydd yn bwriadu meithrin y sîn cerddoriaeth ar lawr gwlad, gan greu amgylchedd lle gall bandiau ffurfio a lle gall cerddoriaeth newydd gael ei greu.

Mae hyn yn digwydd yn barod.  Pob penwythnos mae rhywbeth newydd a gwahanol yn mynd ymlaen.  Rwy’n teimlo bod rhywbeth arbennig iawn yn digwydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.  

Mae cerddoriaeth yn rhan o’r hyn sy’n gwneud Caerdydd yn lle mor dda i fyw ynddo, i bobl ifanc ac i bawb.

Ond yn bwysicach fyth, mae gennym ystod o dalent creadigol, nawr mae angen i ni greu’r amgylchedd cywir i feithrin hynny.   

Mae’r Arfbais ardderchog Caerdydd, a gafodd ei ddylunio gan Pete Fowler, y mae’r Cyngor yn ei roi ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon, yn dweud hi orau:

‘People Maketh the City’

‘Dinas yw ei Phobl’

Mae Caerdydd yn ddinas yn llawn artistiaid, cerddorion, cantorion, cynhyrchwyr, peirianwyr sain ac wrth gwrs, pobl sy’n dwlu ar gerddoriaeth.  

Mae pob un yn rhan o gymuned creadigol ehangach penigamp ym Mhrydain, sy’n helpu i wneud Caerdydd yn un o ddinasoedd mwyaf creadigol a dychmygol y byd.

Fel prifddinas ddwyieithog – mae rhywbeth amdanom ni sy’n wahanol iawn i’r gweddill.  Ac fel hen ddinas borthladd, gallwn fanteisio ar draddodiadau cerddorol o bob cwr o’r byd, a chaneuon sy’n cael eu canu mewn dros 100 o ieithoedd gwahanol.  

Strategaeth Gerddoriaeth

Mae gennym dalent, mae gennym leoliadau, a gwahaniaeth diwylliannol sy’n ein gwahanu ni rhag pawb arall.

Nawr, mae gennym gyfle i fynd â hyn i lefel arall.   Ac rydym am weithio gyda chi i wneud hyn i ddigwydd, drwy ddod â strategaeth gerddoriaeth ynghyd fydd yn debyg i’n dyheadau diwylliannol.   

Bydd ein strategaeth yn hyrwyddo’r holl sector gerddoriaeth, nid cerddoriaeth fyw yn unig. Pob math o genre, pob math o gerddoriaeth, ledled y ddinas i gyd. ‘Dyn ni’n credu bod hyn yn newydd i’r DU.

Bydd yn cydnabod ac yn cefnogi’r rôl y gall cerddoriaeth ei chwarae ym mhob agwedd ar ein bywydau.

Bydd yn hanfodol i’n dyheadau pellach ar gyfer y ddinas.

Mae creadigrwydd wrth galon ein strategaeth economaidd. I’r rheiny sydd wedi cyrraedd ar drên, byddwch chi wedi gweld y datblygiad yn y Sgwâr Canolog. ‘Dyn ni’n rhoi un o brif gwmnïau diwydiant creadigol ein dinas – BBC Cymru – reit yng nghanol ein rhaglen adfywio.   

Mae hyn yn ddatganiad o fwriad – yn cydnabod pwysigrwydd yr economi creadigol i ddyfodol y ddinas.

Rydym am hyrwyddo cyfranogiad creadigol yn ein hysgolion.  Rwy’n credu’n gryf bod angen ymgorffori creadigrwydd yn well yn ein system addysg. Ac rydym yn awyddus i weithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a rhannu eu dysgu nhw o’r buddsoddiad gwerth £20 miliwn yn y rhaglen Dysgu Creadigol mewn Ysgolion.

Oherwydd rwy’n credu’n gryf y dylai plant heddiw gael yr un cyfle diwylliannol yr ydym oll wedi’i gael, a’r plant hynny sy’n gallu meddwl yn greadigol, i addasu a chreu, fydd yn gallu ymateb yn well i’r heriau yr ydym yn eu hwynebu i’r dyfodol.   

Rydym am greu gofodau newydd ac arloesol – gan gynnwys gofodau trefol – a’u hymgorffori i ddatblygiad ffisegol y ddinas, er mwyn perfformio a mwynhau cerddoriaeth.

Rydym am ddefnyddio ein strategaeth gerddoriaeth i godi proffil rhyngwladol y ddinas ac i gefnogi’r sector twristiaeth cerddoriaeth cynyddol, ac yn edrych ymlaen i ddysgu gan Sound Diplomacy, sydd wedi gweithio mewn dinasoedd eraill ledled y byd.  

Mae ein byd ni’n newid yn gyflym, ac rydym oll yn cydnabod yr heriau sydd o’n blaenau, ond ni fydd Caerdydd yn troi ei chefn. Mae angen i’n prifddinas groesawu’r byd.  Dinas sy’n cynnig llwyfan rhyngwladol ar gyfer talent gorau Cymru, ac un sy’n dod â’r talent rhyngwladol gorau i Gymru.  

Er mai un o brif agweddau ar ein gwaith gyda Sound Diplomacy fydd cyfrifo effaith economaidd go iawn cerddoriaeth yn y ddinas, rydyn ni’n gwybod bod yr effaith yn mynd ymhell tu hwnt i’r fantolen.

Gall cerddoriaeth newid ein bywydau am y gorau.  Yn aml, bydd yn ein cefnogi ni drwy gyfnodau tywyll ac yn rhan o greu ein hatgofion gorau.

Mae’n helpu i ddod â phobl at ei gilydd, gan adeiladu synnwyr o falchder a hunaniaeth.  Mae’n creu profiadau a rennir, yn cryfhau’r cysylltiadau ac yn meithrin dealltwriaeth rhwng cymunedau – pwysig iawn os oes rhai – ac isafswm bach, bach iawn yn ein dinas sy’n ceisio mynd yn groes, drwy greu gwahaniaeth a lledaenu casineb.  

Ym mhob agwedd ar fywyd y ddinas, gall cerddoriaeth wneud gwahaniaeth mawr.  

Darparu gyda’n gilydd

Ni fydd yn syndod i unrhyw un bod sefydliadau fel f’un i o dan bwysau ariannol a galw sylweddol iawn.  

 ‘Dyn ni yng Nghaerdydd, fel dinasoedd eraill y DU, yn gorfod edrych ar ffyrdd newydd o gefnogi’r sector diwylliannol.  

Nid oes unrhyw ddatrysiadau rhwydd nac amlwg.

Mae angen bod yn greadigol.

Nid oes gan un person neu sefydliad yr holl atebion. Mae’n rhaid i ni weithio ar y rhain gyda’n gilydd.

Dyna pam yr ydym eisiau i gerddoriaeth a gerddorion helpu i gyfrannu syniadau, gwybodaeth profiad ac i gyflawni amcanion y strategaeth hon.

Yr artistiaid, y cerddorion, yr hyrwyddwyr, perchnogion lleoliadau a’r rheiny sy’n dwlu ar wrando ar gerddoriaeth.  

Ynghyd â phrif bartneriaid megis y BBC, ein Prifysgolion, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru – sydd oll wedi cytuno i gymryd rhan.  

Rwy’n siŵr os ydyn ni’n alinio ein hadnoddau ac yn canolbwyntio’n hymdrechion, drwy’r ymgais ar y cyd byddwn yn creu rhywbeth newydd a chyffrous yma yng Nghaerdydd.  

Yn fras, rydym ar fin dechrau ar rywbeth newydd a blaengar yma yng nghanol prifddinas Cymru.  

I ddyfynnu arfbais swyddogol Caerdydd, a ddyluniwyd a gafodd ei fabwysiadu yn 1906 ochr yn ochr ag agoriad yr adeilad anhygoel hwn:

‘Y Ddraig coch ddyry cychwyn’

Fe wnawn ni bopeth i achub ar y cyfle hwn.

Diolch.  

Share