Newyddiadurwr Digidol S4C

Cyflog
Yn unol â phrofiad
Location
Canolfan S4C Yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ
Oriau
Full time
Closing date
18.10.2021
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 7 October 2021

Mae S4C newydd lansio gwasanaeth newyddion digidol sydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau. Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa iau na’r hyn sy’n gwylio Newyddion S4C ar deledu, er mwyn iddyn nhw fedru cael newyddion amrywiol yn y Gymraeg, ar ffurf fideo a thestun, pryd bynnag a lle bynnag maen nhw eisiau.

Dyma gyfle unigryw i fod yn rhan o wasanaeth arloesol fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i’r dyfodol. 

Gyda diddordeb brwd mewn newyddion Cymreig a’r cyfryngau digidol bydd gennych syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol o’r newydd a denu dilyniant.

Bydd gennych drwyn am stori a’r gallu i fod yn greadigol gyda’r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy’n dal y llygad ac yn creu sŵn.

Gyda sgiliau ieithyddol cryf byddwch yn ysgrifennu yn gywir ac yn ystwyth a bydd gennych y ddawn i gynnal tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.

Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.

Manylion eraill

Lleoliad:                 Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ ond disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

Rydym yn annog pob cyflogai i gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, megis gweithio ystwyth, ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith gwahanol. Mae pob un ohonynt yn amodol ar anghenion busnes

Oherwydd coronafeirws mae S4C wedi lleihau mynediad i'w swyddfeydd ar gyfer staff sydd ddim ynghlwm a darlledu er mwyn sicrhau diogelwch a lles unigolion ac i ddiogelu darlledu.  Mae'n bosibl felly y bydd gofyn i chi weithio o bell wrth ymuno â'r sefydliad os yw'r cyfyngiadau hyn yn dal ar waith.

Cyflog:                   Yn unol â phrofiad

Cytundeb:              Parhaol

Oriau gwaith:         Bydd eich oriau gwaith arferol yn ôl patrwm sifft weithredol, sef cyfanswm o 35¾ awr yr wythnos.  Eich rôl yw cynnal gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos.  O ganlyniad bydd eich patrwm sifft ar draws 7 diwrnod, ac yn unol â gofynion y gwasanaeth

Cyfnod prawf:        6 mis

Gwyliau:                 Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn:                Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%.  

Ceisiadau 

Dylid anfon ceisiadau erbyn 5.00 ar ddydd Llun 18 Hydref 2021 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.  Nid ydym yn derbyn CV.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.