Mynediad i Bob Ardal: Golley Slater

04/07/2017 - 09:30
Golley Slater, Wharton Place, 13 Wharton Street, CF10 1GS
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Erioed wedi meddwl beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llen yn sefydliadau creadigol Caerdydd?
 
Mae Mynediad i Bob Ardal yn gyfle unigryw i weld beth mae busnesau adnabyddus yn ei wneud, sut maen nhw’n gwneud eu gwaith, a’u gwreiddiau creadigol yn y ddinas. Cewch wybodaeth am eu prosiectau diweddaraf, taith dywys o amgylch eu gweithfannau yn ogystal â chyfle i rwydweithio dros baned gyda grŵp bach o’r gymuned greadigol.

Y cyntaf i agor eu drysau fydd yr ymgynghoriaeth gyfathrebu integredig, Golley Slater Cardiff.
 
Golley Slater yw un o asiantaethau cyfathrebu annibynnol mwyaf blaenllaw y DU ac mae’r asiantaeth integredig fwyaf yng Nghymru. Mae dros 60 o staff yn gweithio yn ei swyddfeydd yng nghanol y ddinas. Maen nhw’n cynnig gwasanaethau cysylltiadau cyhoeddus creadigol, hysbysebu, brandio, cynllunio’r cyfyngau, cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag ymgyrchoedd uniongyrchol a digidol integredig i gleientiaid ledled y DU. 
 
A hithau bron yn 60 oed, mae’r ymgynghoriaeth wedi parhau ar flaen y gad drwy fod yn hyblyg a newid ei model busnes dros amser. Yn ogystal â gweithio’n aml gyda rhwydwaith o ysgrifenwyr copi, arbenigwyr cyfryngau cymdeithasol, fideograffwyr a ffotograffwyr llawrydd, mae’r tîm Cynnwys a Chyfryngau Cymdeithasol wedi tyfu’n gyflym fel gwasanaeth pwrpasol dros y chwe mis diwethaf.
 
Ymunwch â ni ddydd Mawrth, 4 Gorffennaf, i glywed rhagor gan Golley Slater Cardiff yn ein digwyddiad Mynediad i Bob Ardal cyntaf.
 
Bydd yn dechrau am 8.30am yn Wharton Place, 13 Stryd Wharton, CF10 1GS. Cadwch eich lle nawr.

ARCHEBWCH NAWR

Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig ar gyfer mynediad i'r digwyddiad hwn, anfonwch neges ebost at creativecardiff@caerdydd.ac.uk.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event