Cynhaliwyd y digwyddiad ym mhencadlys byd-eang y Cyngor Prydeinig yn Stratford, ac roedd y digwyddiad yn gyfle i archwilio creu lleoedd diwylliannol ‘ar waith’. Roedd hyn oll yng nghyd-destun tirwedd newidiol yr East Bank - adeilad hwb diwylliant ac arloesedd newydd a deinamig yn adeiladu ar etifeddiaeth Gemau Olympaidd 2012 ym Mharc y Frenhines Elizabeth.
Roedd llu o gyfleoedd i greu cysylltiadau newydd a chlywed am astudiaethau achos byd-eang yn y diwydiant, a rhoddodd y digwyddiad blatfform i nifer o faterion a phynciau allweddol. Roedd y rhain yn cynnwys: pwysigrwydd lleisiau croestoriadol a chynhwysol ym maes dylunio trefol, rôl diwylliant fel symbylydd ac ysgogydd mewn byd ôl-bandemig, a pha mor bwysig yw ymgorffori cyd-greu cymunedol wrth greu lleoedd.
Dyma rai o’r prif bethau a ddysgodd Jess o’r digwyddiad:
Mae angen dulliau ffres ar leoedd newydd.
Ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd, cafodd y mynychwyr gyfle i fynd ar daith dywys o amgylch East Bank - gweledigaeth gwerth £1.1 biliwn gan Faer Llundain am ardal ddiwylliannol newydd yng nghanol Parc Olympaidd y Frenhines Elizabeth. Yn gydweithrediad unigryw rhwng sefydliadau diwylliannol, prifysgolion arobryn a chymunedau bwrdeistrefi Olympaidd Llundain, East Bank hefyd yw’r buddsoddiad mwyaf sylweddol i fywyd diwylliannol Llundain ers yr Arddangosfa Fawr yn 1851. Cawsant daith o amgylch safleoedd y partneriaid diwylliannol penigamp sy’n cydweithio i weithredu’r East Bank - Sadler’s Wells, V&A, BBC, Coleg Ffasiwn Llundain, Coleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol y Celfyddydau, Llundain - gan glywed am y dulliau arloesol sydd ar waith i sicrhau bod East Bank yn fynnu fel man adloniant, ysbrydoliaeth a darganfod.
Mae’r dulliau hyn yn cynnwys datblygu modelau a phrosesau newydd o ran mynediad, cynhwysiant a her, gan annog cynulleidfaoedd newydd i ymgysylltu a chyd-greu ag arddangosfeydd a chasgliadau mewn ffyrdd sy’n herio traddodiad a disgwyliadau. Er enghraifft, bydd y gofod V&A sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yn sicrhau bod rhan helaeth o’i archif ar gael i’r cyhoedd ar alw am y tro cyntaf erioed, gan ategu dull curadu datganoledig a democrataidd. Bydd partneriaid East Bank hefyd yn cydweithio mewn ffyrdd thematig ar draws sefydliadau, gan ddod ag arbenigedd ac asedau i fynd i’r afael â syniadau a heriau newydd dan ‘gysyniad ymbarél’ craidd.
Yn ystod y daith, sylweddolais bod East Bank yn ei hanfod yn adnodd ymchwil a datblygu ym maes creu lleoedd diwylliannol ar raddfa fawr; sawl partner yn cydweithio i fynd i’r afael â’r her o sut gall sefydliadau diwylliannol sydd wedi hen ennill eu plwyf addasu i ddenu cynulleidfaoedd newydd a mwy amrywiol a sicrhau bod eu gweithgareddau yn addas at y dyfodol. I mi, dyna yw’r agwedd gyffrous ar y gwaith hwn. Rwy’n edrych ymlaen i wylio’r holl beth yn datblygu.
Mae Awdurdodau Lleol yn bartneriaid allweddol wrth greu lleoedd gwell.
Drwy’r dydd, roedd nifer helaeth o’r sgyrsiau yn troi at rôl bwysig llywodraeth leol o ran creu lleoedd. Archwiliodd y trafodaethau panel astudiaethau achos megis: The Livesey Exchange, prosiect sy’n adnewyddu adeiladau ar Old Kent Road - gan gynnwys 60 o fodurdai - i fod yn fannau amlddisgyblaethol sy’n cysylltu cymunedau lleol â chyfleoedd creadigol, a Meanwhile on Oxford Street, menter newydd i adfywio Oxford Street drwy gynnig lleoliadau manwerthu poblogaidd i 35 o frandiau newydd arloesol am gyfnod o chwe mis heb rhent. Siaradodd Emma Beverly, Cyfarwyddwr Rhaglenni Leeds 2023, yn angerddol am rôl celf gyhoeddus o safon uchel fel symbylydd ac adnodd i ganiatáu ymgysylltiad ehangach yn y sector, a thorri lawr rhwystrau sefydliadol i fynediad. Er mwyn gweithredu mannau ar y raddfa hon mewn ffordd blaengar ac arloesol, mae angen sicrhau cefnogaeth strwythurau llywodraethu lleol deinamig a brwdfrydig, sydd nid yn unig yn deall pa mor bwysig yw creu lleoedd ar sail diwylliant, ond sydd ag awydd risg digonol i ysgogi a buddsoddi i’r dulliau hyn. Ategwyd hyn yn araith y prif siaradwr, Justine Simons, Dirprwy Faer Diwylliant a’r Diwydiannau Creadigol, a wnaeth amlygu Parthau Menter Creadigol y Maer fel enghraifft o sut gall cynghorau ddatgloi ‘pŵer cudd cynllunio’ i’w helpu i wreiddio seilwaith cymunedol mewn cymunedau i’r tymor hir.
Mae mannau mwy cynhwysol yn bodloni anghenion pawb yn fwy effeithiol.
Tynnodd panel o 'leisiau benywaidd mewn dylunio trefol' sylw at yr angen am ddulliau cynhwysol, wedi'u cyd-greu, o greu lleoedd i sicrhau y darperir ar gyfer anghenion lluosog ac amrywiol, ac i leihau eithrio. Daeth ystyriaeth fanwl o ddefnydd mannau i'r amlwg fel ffactor allweddol, nid yn unig o safbwynt lleihau materion mynediad neu 'ofn trothwy', ond hefyd o ran diogelwch, defnydd o'r mannau ar wahanol adegau o'r dydd, ac anghenion trafnidiaeth gyhoeddus. Un o brif fyfyrdodau allweddol y diwrnod oedd y ffaith bod ymgorffori anghenion defnyddwyr cynhwysol wrth greu lleoedd yn fuddiol i’r mwyafrif, gan arwain at integreiddiad cymunedol gwell a chreu lleoedd mwy bywiog a deniadol i bawb. Mae hyn, yn ei dro, yn f’arwain at fy myfyrdod olaf...
Mae angen ymagwedd polisi croestoriadol ar leoedd a mannau diwylliannol.
Mae’n hawdd dechrau meddwl mai portffolios y llywodraeth ar y diwydiannau diwylliannol a chreadigol sy’n gyfrifol am greu lleoedd ar sail diwylliant, yn lleol ac yn genedlaethol. Ond fel y sector ei hun, mae creu lleoedd diwylliannol yn berthnasol i sawl maes polisi amrywiol gan gynnwys yr economi, sgiliau ac addysg, trafnidiaeth a chynllunio, treftadaeth, amgueddfeydd a hamdden. Mae’r holl elfennau yn golygu bod datblygu a gweithredu arfer dda yn anodd, ond hefyd bod yr effaith yn bellgyrhaeddol pan fydd pethau’n mynd yn dda. Mannau cyhoeddus yw rhai o’r pwyntiau mynediad amlycaf i ddiwylliant: dydyn nhw’m yn dibynnu ar dalu ffi fynediad neu brynu tocyn, a does dim angen unrhyw sgiliau neu hyfforddiant penodol i’w gwerthfawrogi. Gallant hefyd gael effaith gyfoethog a chynnig profiadau, gan ddod â mannau nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ôl yn fyw, a chefnogi meysydd eraill o’r economi drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr a chynyddu amser aros. Gwnaeth Taking Place fy atgoffa pa mor bwysig yw ‘mynd tu allan’ i barth cyfforddus y sector creadigol a gweithio ledled meysydd polisi amrywiol i sicrhau’r deilliannau gorau i’r diwydiant, ac i amlygu’r effaith bositif a thrawsnewidiol y gall diwylliant ei chael ar leoedd.
Mae’n wych gweld digwyddiadau fel hyn yn cael eu cynnal, a rheiny’n creu trafodaethau am greu lleoedd ar sail diwylliant ac yn arwain y ffordd at fodelau a mentrau mwy arloesol a blaengar. Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r drafodaeth, a dechrau archwilio sut gallwn roi peth o’r hyn rwyf wedi’i ddysgu ar waith yma yng Nghaerdydd. Gwyliwch y gofod (neu gwyliwch y ‘lle’...?)