Teitl Swydd: Croesawydd a Chyfarchydd
Cyflogwr: Amgueddfa Caerdydd
Lleoliad: Caerdydd
Natur y Swydd: Rhan Amser
Math y Contract: Dim Oriau
Cyflog: £9.30 yr awr
Dyddiad Cau: 12/12/21
Disgrifiad Swydd – Croesawydd a Chyfarchydd
Disgrifiad Swydd / Cyfrifoldebau Allweddol
Croesawydd / Cyfarchydd
Diben y Swydd: Bydd deiliad y swydd yn aelod o dîm o staff sy’n rhoi gofal cwsmeriaid o ansawdd gwych yn Amgueddfa Caerdydd drwy ragweld ac ymateb i anghenion ymwelwyr. Ymhlith yr amrywiaeth o gyfrifoldebau bydd cynorthwyo gyda rhaglennu llefydd arddangosfa, derbynfa a chroeso, gofal a dehongli’r adeilad a’i gasgliadau, diogelwch a chyfrifoldeb dros sicrhau bod y safle yn lân ac wedi ei gynnal a’i gadw’n dda.
Prif Gyfrifoldebau
Mae’r rhestr ganlynol yn nodweddiadol o lefel y cyfrifoldebau y disgwylir i ddeiliad y swydd eu perfformio. Nid dyma nhw i gyd o anghenraid ac efallai bydd dyletswyddau eraill sy'n debyg o ran math a lefel yn ofynnol o bryd i'w gilydd.
- Fel cynrychiolydd o Amgueddfa Caerdydd, bydd angen i chi ar bob adeg:
-wisgo’n briodol.
-Ymddwyn yn gyfeillgar fel y gall pobl ddod atoch yn hawdd gan wasanaethu fel wyneb cyfeillgar i staff ac ymwelwyr.
-hyrwyddo’n gadarnhaol a gweithredu fel llysgennad i Amgueddfa Caerdydd.
- Cynorthwyo gyda rhaglennu llefydd arddangos.
- Sicrhau iechyd a diogelwch yr ymwelwyr a’r adeilad a’i gynnwys ar bob adeg.
- Darparu gradd uchel o broffesiynoldeb i gynorthwyo cynyddu defnydd ymwelwyr ac enw da Amgueddfa Caerdydd a’r Cyngor.
- Cynorthwyo gyda digwyddiadau arbennig pan fo’r gofyn.
- Rhoi cymorth a gwybodaeth i ymwelwyr am y safle a’i arddangosiadau ac arddangos dangosbethau sy’n gweithio ac sy’n rhyngweithiol yn ôl gweithdrefnau y cytunwyd arnynt.
- Gweithredu dyletswyddau croesawu gan gynnwys cyfarch unigolion a grwpiau o ymwelwyr.
- Patrolio ardaloedd i ddiogelu’r adeilad a’r ardal o’i gwmpas, ei gasgliadau a’i offer rhag difrod, fandaliaeth, lladron, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thân ac ymgyfarwyddo â'r gweithdrefnau a'r lleoliad, y defnydd o offer diffodd tân ac offer diogelwch arall gan gynnwys cadeiriau gadael mewn argyfwng sydd ei angen i ddiogelu staff ac ymwelwyr mewn argyfwng.
- Paratoi orielau ac ystafelloedd ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau drwy symud a gosod dodrefn, offer a lluniaeth.
- Gweithredu gweithdrefnau’n barod ar gyfer gorffen ar ddiwedd y dydd a dechrau diwrnod newydd. (hynny yw clirio’r ymwelwyr o’r ardal ar ddiwedd y dydd)
- Bod yn gyfrifol am gasglu allweddi staff ac arwyddo allweddi nôl wrth iddynt orffen eu shifft.
- Bod yn gyfrifol am agor a chau’r adeilad yn unol â gweithdrefnau’r Hen Lyfrgell
- Annog ymwelwyr i ddefnyddio’r daith glywedol a bod yn gyfrifol am gasglu’r offer perthnasol pan fydd ymwelwyr yn gadael a chynnal a chadw’r unedau. Adrodd am ddifrod neu golledion yr unedau i Oruchwyliwr Blaen y Tŷ.
- Cynorthwyo gyda symud, trin a phacio a dadbacio casgliadau a dangosbethau gan gynnwys gosod arddangosfeydd ac arddangosiadau.
- Arsylwi a chydsynio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch a chod ymarfer ar gyfer arolygu staff a bod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldeb eich hun ac eraill o Iechyd, Diogelwch a Lles personol a allai gael eu heffeithio gan eich gweithredoedd neu eich diffyg gweithredu a rhoi gwybod am unrhyw beryglon i ddiogelwch.
- Cydsynio gyda'r holl gyfarwyddiadau o ran diogelwch a chyfrinachedd.
- Efallai y bydd gofyn i chi o bryd i’w gilydd ymgymryd â dyletswyddau eraill yr ystyrir iddynt fod yn rhesymol eu disgwyl.
- Mae’n hanfodol bod holl bolisïau a gweithdrefnau’n cael eu dilyn boed hynny ar hyd a lled y Cyngor neu’n benodol i’r safle.
- Cyfrannu at y gwaith o gefnogi egwyddorion ac ymarfer cyfle cyfartal fel y nodir ym Mholisi Cyfle Cyfartal y sefydliad.
- Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol iawn. Mae’n ofyniad i bobl na allant Gymraeg ymrwymo i ddysgu’r iaith.
Gofynion Corfforaethol
· Cyfrannu at y gwaith o gefnogi egwyddorion ac arferion cyfle cyfartal fel y'u nodir ym Mholisi Cyfle Cyfartal y Cyngor.
· Bod yn gyfrifol am eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac unrhyw berson arall y gallai eich gweithredoedd neu eich esgeulustod chi effeithio arno a chydymffurfio â phob deddfwriaeth iechyd a diogelwch fel y bo’n briodol.
· Fel dyletswydd statudol, cydymffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor a pholisïau a gweithdrefnau cysylltiedig ac adrodd ar bryderon diogelwch a lles plant neu oedolion sydd mewn perygl. I’ch cefnogi yn hyn o beth, mae angen i chi gwblhau hyfforddiant diogelu ar y lefel sy’n briodol i’r swydd hon.
· Fel amod o’ch cyflogaeth, gellir gofyn i chi gyflawni unrhyw ddyletswyddau a/neu amseroedd gwaith eraill fel y bo’n rhesymol ddisgwyliedig gennych fel sy’n cyd-fynd â’ch gradd neu’ch lefel o gyfrifoldeb o fewn y sefydliad.
· Er y cewch rywle canolog i weithio ohono, efallai y bydd yn rhaid i chi weithio mewn amryw leoliadau yn unol ag anghenion y swydd.
Manyleb Swydd
Blaen Tŷ: Croesawydd a Chyfarchydd
Cymwysterau, sgiliau a phrofiad angenrheidiol:
- Brwdfrydedd gwirioneddol am bopeth yn ymwneud â Chaerdydd - Gallu gweithio ac ymwneud gydag amrywiaeth eang o bobl
- Diddordeb gwirioneddol a brwdfrydedd dros dreftadaeth
- Gallu i siarad Cymraeg neu ymroddiad i ddysgu’r iaith yn hanfodol
- Diddordeb a pharodrwydd i ddysgu am y casgliadau yn Amgueddfa Caerdydd
- Ymwybyddiaeth o dân, gweithdrefnau argyfwng, iechyd a diogelwch a chymorth cyntaf
- Gwybodaeth am weithdrefnau diogelwch
- Gallu gweithio oriau anghymdeithasol, (gan gynnwys penwythnosau a gyda’r nosweithiau), yn ôl rota
- Agwedd hyblyg
- Prydlon
- Sgiliau cyfathrebu a chwsmer da gan ymddwyn mewn modd cyfeillgar,
Agos-atoch a’r gallu i gynorthwyo pawb
- Ymarferol – Cynnal a chadw Oriel
Gallu
· Rhoi Ein Cwsmeriaid yn Gyntaf
· Cyflawni Pethau
· Cymryd Cyfrifoldeb Personol
- Ceisio deall eraill, a’u trin gyda pharch
Cyfeiriad ar gyfer ymgeisio neu gael rhagor o fanylion: Anfonwch CV a llythyr eglurhadol i Oruchwylydd Blaen y Tŷ, Menna Bradford. mmenna.bradford @cardiff.gov.uk