Mor Gryf (So Strong) - Comisiynau Sbarduno

Cyflog
£1000
Location
Caerdydd/Cwm Du
Oriau
Part time
Closing date
24.05.2024
Profile picture for user TomBevan

Postiwyd gan: TomBevan

Dyddiad: 29 April 2024

Mae TBC yn cynnig tri chomisiwn sbarduno i unigolion lliw sy’n cwiar a/neu draws, sy'n hanu o Gymru, neu sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, i ymateb i thema bywyd cwiar yng Nghymru wledig.

Gallai ffurfiau celf gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) cerddoriaeth, celf weledol, ffotograffiaeth, theatr, barddoniaeth, celf perfformio, dawns, y celfyddydau mewn prosiectau cymunedol neu addysg ac archifau. 

Bydd eich gwaith yn cyd-fynd â'r datblygiad cychwynnol ar gyfer sioe theatr gerdd newydd sy'n cael ei datblygu gan Tom Bevan (Cynhyrchydd), Matthew Xia (Cyfarwyddwr) a Tonderai Munyevu (Dramodydd), a ariennir gan Cyngor Celfyddydau Cymru. Rhwng mis Mehefin a mis Medi 2024, byddwn yn cefnogi'r artistiaid llwyddiannus gydag ymchwil, cynllunio prosiectau a gyda lleoedd i chi rannu eich gwaith ochr yn ochr â'n sioe wrth iddi ddatblygu. Bydd mwy o wybodaeth am ein sioe yn cael ei rhannu gydag artistiaid a gomisiynwyd; gall ei stori, themâu a cherddoriaeth hefyd helpu i lywio neu ysbrydoli rhywfaint o'ch gwaith. Efallai y bydd eich ymatebion creadigol yn cael eu rhannu mewn person yn ogystal ag ar-lein.

Mae TBC yn gwahodd artistiaid i gyflwyno eu syniadau cychwynnol ar gyfer darn o waith sy'n ymateb i'r thema.  Mae pob un o'r tri chomisiwn werth £1,000, ac rydym yn gofyn i artistiaid anfon cyllideb gychwynnol i mewn o sut y gallent wario'r arian sy'n cynnwys ffi ystyrlon i chi'ch hun.

Enghraifft o gyllideb 

https:/docs.google.com/document/d/1BtO2dYmgs9wv4Hiy4HgvF7VsYgKP6OpCm4V33Mo3qnE/edit?usp=sharing

I wneud cais 

  • Anfonwch CV neu ddolen at bortffolio neu ddolen i’ch cyfryngau cymdeithasol/gwefan.
  • Dywedwch fwy wrthym am eich syniad a sut mae'n ymwneud â'r thema. Gallwch anfon hwn fel testun ysgrifenedig (uchafswm o 1 dudalen), neu fideo (uchafswm o 2 funud) neu nodyn llais (uchafswm o 2 funud).
  • Atodwch gyllideb, naill ai fel testun neu mewn taenlen excel, ar gyfer sut yr ydych yn bwriadu gwario'r £1,000.

E-bostiwch yr uchod i: sostrongshow@gmail.com

Dyddiad cau: 24 Mai, 5pm 

Bydd ceisiadau yn cael eu derbyn yn Gymraeg neu Saesneg. Rydym yn annog prosiectau sy'n cofleidio'r ieithoedd niferus a siaredir yng Nghymru, gan gynnwys Cymraeg. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gefnogaeth i lunio cyllideb i’r prosiect, cysylltwch â Tom (Artist Arweiniol a Chynhyrchydd): tombevanwork@gmail.com

Enghraifft o Gyllideb

Rydych chi'n artist gweledol o Sir Benfro ac rydych chi am beintio tirwedd Bannau Brycheiniog. Mae angen 3 diwrnod i beintio. Rydych chi eisiau teithio o Sir Benfro. Mae angen deunyddiau newydd arnoch, a hoffech aros am 3 noson mewn Airbnb cyn teithio adref. Efallai y bydd cyllideb eich prosiect yn edrych fel hyn:

Disgrifiad

Cost

Nifer

Cyfanswm 

Ffi Artist

£150 (y diwrnod)

3

£450

Teithio 

£100 

1

£100

Llety 

£75  (y noson)

3

£225

Cyflenwadau Celf 

£150

1

£150

Wrth gefn

£75

1

£75

Cyfanswm

   

£1,000

 

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event