Molly Caenwyn

Mae’r gwaith rwyf wedi ei greu yn edrych ar y ffordd mae pobl wedi bod yn delio â galar yn ystod y cyfyngiadau symud, pan fo angen cadw pellter cymdeithasol.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 24 September 2020

Molly final piece

Tua dechrau’r cyfyngiadau symud, collais fy nhad-cu oherwydd y Coronafeirws. Mae’r gwaith rwyf wedi ei greu yn edrych ar y ffordd mae pobl wedi bod yn delio â galar yn ystod y cyfyngiadau symud, pan fo angen cadw pellter cymdeithasol. Mae’r cyfyngiadau hyn wedi ein gorfodi i gysylltu ag anwyliaid mewn ffyrdd newydd.  

Ar gyfer y prosiect hwn, rwy’n cyfuno ffotograffiaeth, yn benodol proses ffotograffig Cyanotype, â chroesbwytho i gynhyrchu’r darn terfynol. Mae’r gwaith yn cynnwys pum elfen lai sy’n adlewyrchu’n fras bum cyfnod galar a phum cam pecyn prawf cartref COVID-19.

Darparwyd y delweddau a’r testun yn y darn hwn gan bobl ar y cyfryngau cymdeithasol, ar ôl imi ofyn am y ffyrdd corfforol ac emosiynol roeddent wedi bod yn galaru ac yn delio â galar, a hynny ar wahân i’w teuluoedd. Drwy ddefnyddio sawl cyfrwng ystyrir cysylltiad corfforol drwy eu natur cyffyrddol, ond hefyd adlewyrchir y sgiliau sydd wedi fy nghysylltu ag unigolion a grwpiau creadigol yn ninas Caerdydd.

Drwy’r camau corfforol roedd eu hangen i greu’r darnau hyn, rwy’n ailgysylltu â’r grwpiau hyn a hefyd fy mam, gan fod croesbwytho yn sgil a ddysgais ganddi pan yn fach. Drwy’r gwaith hwn rwy’n gobeithio rhannu rhan fechan o’r ffordd mae llawer ohonom yn delio â galar ac adlewyrchu cyfran fechan o’r sgiliau artistig sy’n creu ein Caerdydd creadigol.  

Sometimes im fine

2

3

4

5

Disgrifiad clywedol wedi'i ddarllen gan Molly Caenwyn: 

I wybod mwy am Molly Caenwyn a chrëwyr eraill y prosect Ein Caerdydd creadigol 2020, cliciwch yma.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event