Marchnatwr Digidol Llawrydd (Dwyieithog) - Gŵyl y Llais

Cyflog
Cyfradd diwrnod llawrydd o £180
Location
Caerdydd
Oriau
Other
Closing date
28.03.2022
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 15 March 2022

Rydyn ni’n chwilio am unigolyn llawrydd egnïol a chreadigol i ymuno â’n tîm fel marchnatwr digidol dwyieithog, gan weithio ar yr ymgyrch ar gyfer ein gŵyl gelfyddydau ryngwladol flynyddol, Gŵyl y Llais.

Mae Gŵyl y Llais yn cael ei chynhyrchu gan Ganolfan Mileniwm Cymru ac yn dod ag artistiaid a chynulleidfaoedd at ei gilydd dros bedwar diwrnod o gerddoriaeth fyw anhygoel, perfformiadau ysgogol a sgyrsiau ysbrydoledig.


Mae’r ŵyl, sydd bellach yn ei phedwaredd blwyddyn, yn canolbwyntio ar ymgyrch farchnata digidol yn gyntaf – gyda’r nod o gynyddu ein cyrhaeddiad digidol, ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar-lein a hybu gwerthiant tocynnau’r ŵyl.

Gan weithio’n agos gyda’r Rheolwr Marchnata a rhanddeiliaid eraill, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn llywio ein hymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Gŵyl y Llais, gan gyflwyno llais cryf ac amserlen o gynnwys diddorol ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol yr ŵyl, ac yn bwydo i mewn i sianeli cyffredinol Canolfan Mileniwm Cymru ar yr un pryd. Byddan nhw hefyd yn cynorthwyo i gyflwyno elfennau o ymgyrch farchnata digidol gyffredinol Gŵyl y Llais gan gynnwys marchnata dros e-bost, marchnata digidol, creu cynnwys digidol, meithrin perthynas a datblygu cynulleidfa gyda ffocws ar gerddoriaeth fyw.


Bydd gan yr unigolyn delfrydol dros ddwy flynedd o brofiad o gyflwyno ymgyrchoedd marchnata creadigol a llwyddiannus ar draws yr holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Bydd ganddyn nhw hefyd wybodaeth ymarferol dda am ymgyrchoedd marchnata aml-sianel ar gyfer sefydliadau neu wyliau creadigol, gan gynnwys gweithgarwch marchnata digidol a thraddodiadol.


Byddan nhw’n feistr ar greu cynnwys diddorol, gan optimeiddio negeseuon ar gyfer tyfu’r gymuned a gwerthiant tocynnau, ac olrhain a gwerthuso effaith allbwn Gŵyl y Llais ar y cyfryngau cymdeithasol.


Fel sefydliad dwyieithog rydyn ni’n cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg; felly mae'r rôl yma’n gofyn am ysgrifennwr copi sy’n rhugl yn y ddwy iaith sy’n gallu bod yn ddeinamig ac yn adweithiol a helpu i adeiladu cymunedau ar-lein.

Anfonwch CV a llythyr eglurhaol byr (dim mwy na dwy dudalen) i marketing@wmc.org.uk


Dylech gynnwys dolenni at enghreifftiau o'ch gwaith neu brosiectau blaenorol lle bo modd.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.