Magnus Oboh

Roeddwn i am dynnu sylw at fy ngwaith rap bratiog sydd wedi bod yn cael cryn sylw ar-lein yn ddiweddar, ond roeddwn i hefyd am adrodd yr hanes o’r dechrau fel bod pobl yn deall yr heriau a’r cynnydd a wnaed. 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 24 September 2020

Mae fy mhrosiect Caerdydd Creadigol i yn ymwneud â’m taith gerddorol/creadigol a ddechreuodd yma yng Nghaerdydd. 

Roeddwn i am dynnu sylw at fy ngwaith rap bratiog sydd wedi bod yn cael cryn sylw ar-lein yn ddiweddar, ond roeddwn i hefyd am adrodd yr hanes o’r dechrau fel bod pobl yn deall yr heriau a’r cynnydd a wnaed. 

Er bod y maes hwn yn dod yn fwy adnabyddus yn fyd-eang, mae’r ymwybyddiaeth ohono yn y ddinas yn amrywio felly, drwy wneud y rhaglen ddogfen hon, gobeithio y bydd yn gwneud mwy o bobl yn ymwybodol o’r hyn rydym wedi bod yn ei greu yma yng Nghaerdydd. 

Mae dinas Caerdydd yn annwyl iawn imi oherwydd dyma lle dysgais bopeth rwy’n ei wneud heddiw. Pan ddes i yma gyntaf nid oeddwn i’n gwybod fawr ddim am unrhyw beth, ond llwyddais i ddilyn fy nhrywydd fy hun.  

Cefais gyfle i greu rhywbeth newydd sbon yma a byddaf bob amser yn ddiolchgar am hynny.  

Mae’r prosiect yn adrodd yr holl hanes, o’r foment y cyrhaeddais i Gaerdydd hyd heddiw, sut y llwyddais i feithrin cysylltiadau a dod yn rhan o’r sîn greadigol, yr heriau a wynebwyd gennyf, a phosibiliadau’r dyfodol. 

Dim ond gwaith ffilmio gwreiddiol a ddefnyddiwyd yn y darn hwn. 

Fi a wnaeth ffilmio’r rhan fwyaf a hefyd gofynnais i bobl anfon unrhyw fideos oedd ganddyn nhw. Fy ngherddoriaeth i sydd i’w chlywed ac mae cymysgedd o fideos a lluniau i adrodd y stori. 

Gobeithio y bydd y rhaglen ddogfen hon yn ysbrydoli unrhyw un sydd am fod yn greadigol ond nad oes ganddyn nhw unrhyw brofiad na chymwysterau, ac yn dangos pa mor groesawgar a chreadigol yw Caerdydd. 

Disgrifiad clywedol wedi'i ddarllen gan Magnus Oboh: 

I wybod mwy am Magnus Oboh a chrëwyr eraill y prosect Ein Caerdydd creadigol 2020, cliciwch yma.