Ymunwch â’r artist Craig McCorquodale o Glasgow mewn cyfres o berfformiadau awyr agored, gan ddefnyddio’r ardal leol fel ein cynfas a’r strydoedd fel ein llwyfan. Drwy gyfres o dasgau chwareus, byddwn yn defnyddio testun, delweddau a theithiau cerdded cyffredin i amharu ar rythmau arferol gofod cyhoeddus a deall sut y gall ymyriadau artistig roi ystyr newydd i rywle cyfarwydd.
O deithiau cerdded grŵp i hunanbortreadau yn y coed, i theatr safle-benodol yn Tesco, bydd y gweithdy hwn yn gyfle cofiadwy i roi cynnig ar rywbeth newydd a gwneud i’r math o bethau y gallem eu hystyried yn amhosibl ddigwydd – hyd yn oed am eiliad.
Seeing This Place Differently yn eich gwahodd i ystyried eich cysylltiad personol â’r lle rydych chi’n byw ynddo, ac yn annog ffordd fwy anturus o gysylltu â rhywle cyfarwydd.