Byddem yn falch pe byddech yn ymuno â ni ar ein taith...
Mae National Theatre Wales yn chwilio am dri Ymddiriedolwr newydd. Rydyn ni ar daith ar hyn o bryd. Rydym yn archwilio ffyrdd newydd o adeiladu hunaniaeth â ffocws newydd fel gwneuthurwyr newid trwy ein gwaith - rhannu straeon, gwneud cysylltiadau, a dechrau sgyrsiau sy'n gweithredu fel drych a microsgop ar gyfer dychymyg cyfunol Cymru. Byddem wrth ein bodd pe gallech ymuno â ni a helpu i lywio'r llwybr a gymerwn.
Nid oes angen i chi fod wedi bod yn Ymddiriedolwr o'r blaen, na hyd yn oed â phrofiad o theatr neu'r celfyddydau. Yn wir, byddem wrth ein bodd pe baech wedi teimlo hyd yn hyn nad yw bod yn Ymddiriedolwr yn addas i chi. Byddem wir yn gwerthfawrogi eich profiad byw o rywle arall.
Mae gennym ddiddordeb yn bennaf i weld a ydych am ysgogi newid cadarnhaol ac agor meddyliau, ar draws ein cenedl a thu hwnt.
Os felly, a bod gennych ddiddordeb yn y manteision – i chi ac i eraill – o fod yn Ymddiriedolwr ar un o gwmnïau celfyddydol cenedlaethol Cymru, daliwch ati i ddarllen.
A oes gennych unrhyw un o'r profiadau a'r sgiliau canlynol...?
- Artistiaid a gwneuthurwyr theatr, gan gynnwys awduron, dylunwyr, cynhyrchwyr, technegwyr, cerddorion a choreograffwyr;
- Cynnwys a llwyfannau digidol;
- Brandio a chyfathrebu;
- Codi arian, gan gynnwys rhoddion corfforaethol ac unigol;
- Ieithoedd lleiafrifol Cymru gan gynnwys Pwyleg, Arabeg, Portiwgaleg ac Iaith Arwyddion Prydain;
- Profiad byw o hiliaeth, rhagfarn ar sail anabledd a/neu dlodi
- Cyllid (cadw cyfrifon a chyllidebau)
Os mai 'oes' yw'r ateb i un neu fwy o'r cwestiynau hyn, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych - yn enwedig os nad ydych yn siŵr sut y gallai weithio. Rydym yn hyblyg. Mae hynny'n golygu – lle y gallwn, byddwn yn trefnu cyfarfodydd a sgyrsiau o'ch cwmpas chi, ac ni fyddwn yn gwneud galwadau diddiwedd ar eich amser. Rydyn ni eisiau i chi fod yn rhan o'r antur ac mae hynny'n golygu perthynas sy'n fuddiol ac yn llawn parch i'r ddwy ochr. Byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs os ydych yn siaradwr Cymraeg a/neu wedi’ch lleoli y tu allan i Dde-ddwyrain Cymru, ond nid yw’r naill na’r llall yn hanfodol.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â work@nationaltheatrewales.org gydag ychydig amdanoch chi'ch hun, eich argaeledd ar gyfer galwad ffôn neu Zoom a'ch manylion cyswllt.
Am ragor o wybodaeth amdanom ni, ewch i nationaltheatrewales.org. Os hoffech gopi or pecyn recriwtio Ymddiriedolwyr cysylltwch a ni ar work@nationaltheatrewales.org.
TELERAU AC AMODAU
Cyflog: Swydd wirfoddol
Cyfnod: Penodiad 3 blynedd gyda'r posibilrwydd o ailbenodi am 3 blynedd
Oriau: Tua 2 awr y mis (yn canolbwyntio ar gyfarfodydd Bwrdd chwarterol, cyfarfodydd chwarterol a chwemisol is-bwyllgorau, a rhai sgyrsiau ad hoc, cynllunio a sesiynau gwaith strategol). Rydym yn hyblyg iawn ar gyfer y bobl iawn.
SUT I WNEUD CAIS
I wneud cais, gallwch naill ai ysgrifennu llythyr eglurhaol (heb fod yn fwy na 2 dudalen os gwelwch yn dda!) NEU ffilmiwch fideo byr ohonoch chi'ch hun (dim mwy na 5 munud). Nid oes ots gennym pa un, rydym yn hapus i dderbyn pa bynnag fformat sydd fwyaf addas i chi. Yn eich llythyr eglurhaol neu fideo, dywedwch wrthym amdanoch chi a'ch profiadau sy'n berthnasol i fod yn un o'n Hymddiriedolwyr. Dywedwch ychydig wrthym hefyd am yr hyn yr ydych yn anelu ato mewn bywyd. Beth sy'n bwysig i chi? Beth ydych chi'n credu ynddo? Ble hoffech chi fod ymhen 3 blynedd? Pa newidiadau hoffech chi eu gwneud i’n cymdeithas? Beth ydych chi'n hoffi ei wneud?
Anfonwch eich llythyr eglurhaol neu fideo atom gyda ffurflen gais wedi'i llenwi a'ch CV (dim mwy na 2 dudalen os gwelwch yn dda, ynghyd â geirdaon) i: work@nationaltheatrewales.org erbyn 9yb, Mai 23 2022.
Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad dros Zoom, sy'n debygol o ddigwydd yn ystod yr wythnos yn dechrau 6ed Fehefin 2022 (i’w gadarnhau). Mae'r rhain yn sgyrsiau cyfeillgar, anffurfiol i raddau helaeth am 30 munud gyda thua phedwar o bobl gan gynnwys Cyfarwyddwr Artistig NTW ac aelod o banel TEAM. Byddwn yn anfon amlinelliad bras atoch o'r cwestiynau y byddwn yn eu gofyn ichi, a bywgraffiadau byr o'r bobl y byddwch yn cyfarfod â hwy ymlaen llaw.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu'r broses, mae croeso i chi gysylltu ar work@nationaltheatrewales.org