Mwy am y cyfle
Bydd y cyfle datblygu proffesiynol hwn i awduron o Gymru yn digwydd yn ystod Gŵyl y Gelli (25 Mai - 4 Mehefin) o ddydd Sadwrn 27 Mai i ddydd Sadwrn 3 Mehefin 2023 (cyrraedd Dydd Gwener 26 Mai, gadael Dydd Sul 4 Mehefin). Bydd y rhaglen wythnos o hyd, wedi ei churadu a’i harwain gan Tiffany Murray, yn galluogi’r awduron llwyddiannus i fynychu dosbarthiadau meistr, gweithdai ac i rwydweithio gydag awduron, cyhoeddwyr, asiantaethau ac aelodau o’r wasg o Gymru, y DU a thu hwnt. Dywedodd Tiffany:
Mae Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli yn rhaglen mor unigryw. Mae’n MA ysgrifennu creadigol mewn naw diwrnod. Mae’n ofod creadigol a phroffesiynol lle mae carfan newydd o awduron Cymreig yn ffurfio, ac yn mynd ymlaen i wneud pethau gwych. Mae awduron blaenorol o'r cynllun wedi ennill amryw o wobrau, gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn, a nawr yn griw o awduron sy'n cefnogi ei gilydd y tu hwnt i'r rhaglen. Nid yw bod yn awdur yn beth hawdd ac mae'r uned gefnogol sy’n dod allan o’r rhaglen hon yn helpu meithrin gwaith yn y blynyddoedd i ddod; dyna yw'r peth mwyaf cyffrous i mi am Awduron wrth eu Gwaith.
Mae Gŵyl y Gelli yn gwahodd ceisiadau gan feirdd, awduron ffuglen (pob genre) ac awduron ffeithiol-greadigol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Nod y rhaglen yw alluogi’r awduron llwyddiannus i fagu hyder, sgiliau ac i ffurfio rhwydweithiau gyda’u cyfoedion, gan adael y rhaglen wedi eu hysbrydoli i greu gweithiau newydd ac i gyflawni eu hamcanion personol. Bydd rhaglen Awduron wrth eu Gwaith yn cael ei darparu yn rhad ac am ddim, gyda Ysgoloriaeth Awduron wrth eu Gwaith yn talu am lety, teithio o fewn Cymru a chynhaliaeth yn ystod yr ŵyl. Mae safle’r Ŵyl yn gwbl hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae dolenni anwythol (induction loops) ar gael ym mhob lleoliad perfformio. Caniateir cŵn tywys.
Sut i wneud cais
Bydd y ffurflen gais yn gofyn am bywgraffiad awdur, datganiad yn amlinellu eich amcanion a'ch nodau fel awdur Cymreig a amlinelliad byr o brosiect cyfredol.