Mae Caerdydd Creadigol yn bartneriaid ar Ymylol 6 Music Festival

Bydd Caerdydd yn cynnal Gŵyl BBC Radio 6 Music eleni, a gynhelir rhwng 1 a 3 Ebrill 2022. Mae Cymru Greadigol wedi ymuno â lleoliadau a cherddorion lleol i greu 6 Music Festival Frinj, a fydd yn rhedeg o 28 Mawrth tan 3 Ebrill.

 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 15 February 2022

Gig crowd with blonde woman higher above

Bydd Frinj Festival yn cynnwys perfformiadau gan artistiaid a bandiau mewn lleoliadau ar draws y ddinas, a bydd yn arddangos yr ehangder o dalent ac amrywiaeth o artistiaid sy’n bodoli yng Nghaerdydd wrth daflu goleuni ar rôl hanfodol lleoliadau cerddoriaeth ledled y ddinas.

Yn ogystal, mae Cymru Greadigol mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, Caerdydd Creadigol a Phrifysgol De Cymru i greu cyfres o ddigwyddiadau yn ystod y dydd.

Dywedodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol: Mae’n gyffrous iawn croesawu Gŵyl 6 Music y BBC i Gaerdydd, a chael cyfle i greu Gŵyl Ymylol sy’n cael ei chynnal mewn lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ledled y ddinas. Mae llawer o ddigwyddiadau ar y gweill: perfformiadau jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru; gigs roc yn Fuel, hip-hop yn Porter’s a llawer mwy. Ar ben hynny, mae Cymru Greadigol wedi ffurfio partneriaeth â Chyngor Caerdydd, Caerdydd Greadigol a Phrifysgol De Cymru i greu cyfres o ddigwyddiadau yn ystod y dydd a mynediad i fyfyrwyr newyddiaduraeth brofi’r ŵyl, ysgrifennu amdani yn eu geiriau eu hunain a chyhoeddi eu gwaith. Ar ôl cwpl o flynyddoedd mor anodd i’r sîn gerddoriaeth yn y brifddinas, bydd yn bleser cael gweld pawb sy’n ymweld yn mwynhau’r dathliad arbennig hwn.

Darllenwch yma ar gyfer rhaglen lawn Frinj Festival ac i archebu tocynnau.


Bydd Caerdydd Creadigol yn gweithio gyda chydweithwyr a myfyrwyr o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant i gynnal cynnwys a digwyddiad arbennig fel rhan o'r Fringe. Daw rhagor o fanylion yn fuan.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event