Mae’r ddinas yn llawn llefydd hynod o braf i dreulio amser. Yn ddiweddar gwelodd Caerdydd dipyn o chwyldro coffi, gydag ymddangosiad llu o siopau coffi newydd annibynnol yn cynnig wifi am ddim yma ac acw ar draws y ddinas. Ym mhob twll a chornel gellir gweld gweithwyr crwydrol gyda’u Macbooks yn chwilio am gaffein yn danwydd i’w nofel fawr, eu sgriptiau ffilm, neu eu cynigion cychwyn busnes.
Yn ogystal â’r cadwyni arferol, gallwch ganfod y siopau annibynnol hyn:
Little Man Coffee, sy’n cynnig coffi am ddim i weithwyr llawrydd hyd at 11 o’r gloch bob bore Llun, ac sy’n cynnal amryw o ddigwyddiadau rhwydwaith.
Uncommon Ground Roasting Co, sy’n swatio yn yr Arcêd Brenhinol;
The Boardroom, lle gallwch brynu coffi i rywun lleol digartref wrth dalu am eich latte;
Milk and Sugar, sy’n cynnig bwydlen ddyddiol flasus hefyd; a
Wyndham Tea (cangen o ystafelloedd te bythol boblogaidd y Waterloo Gardens Teahouse yn y Rhath).
Y tu allan i’r canol, mae mwy i’w cael:
Milgi, sydd hefyd yn cynnal stondinau bwyd llysieuol mewn marchnadoedd bwyd ledled y ddinas;
Penylan Pantry (Kimberly Road);
Kemis (Kings Road); a
Os yw lleoliadau gweithio torfol mwy traddodiadol yn fwy at eich dant, rhaid ichi fynd am dro i weld Welsh ICE – a bod yn fanwl gywir mae ychydig y tu allan i Gaerdydd, ond mae’r cyfleusterau i weithwyr llawrydd yn anhygoel.
Yn y ddinas mae sawl lleoliad a redir gan Indycube ar wasgar ar draws y ddinas er cyfleustra i chi. Ac os oes gennych awydd rhywbeth llai traddodiadol, beth am gynhwysydd llong wedi’i addasu? Wedi i rywun sylwi’n ddiweddar ar brinder gofod swyddfa i weithwyr llawrydd creadigol, agorwyd Boneyard – gyda chynwysyddion llongau wedi’u troi’n swyddfeydd a lle i’w logi ar gyfer digwyddiadau. Cynhelir diwrnod agored yn y Boneyard a’r Printhaus sydd nesaf ato ar ddydd Sadwrn cyntaf bob mis, lle gallwch fynd a gweld sut le sydd yno.