Lansio Asiantaeth Actio Newdd, ‘Somebody’

Mae asiantaeth actio flaengar newydd, ‘Somebody’ wedi ei lansio, yn cynrychioli actorion a thalent fasnachol arbennig yn Llundain, Caerdydd, Gogledd Lloegr a’r Alban. Mae Somebody yn gartref i dalent newydd a sefydledig, a bydd yn cyflwyno rhai o’r actorion gorau sydd gan y DU i’w cynnig i Gyfarwyddwyr Castio.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 25 February 2021

Sefydlwyd Somebody gan grewyr un o brif asiantaethau cefndir y DU, Mad Dog 2020 Casting. Felly, er bod yr asiantaeth wedi'i lansio yn 2021, rydym yn brofiadol iawn. Mae gan y tîm sydd y tu ôl i Somebody yrfaoedd yn y Diwydiant Ffilm a Theledu sy’n mynd yn ôl dros 40 mlynedd.

Sefydlwyd Somebody i arloesi dull newydd o gynrychioli actorion ac artistiaid.  Wedi'i eni o'n hangerdd a'n profiad o gastio ar gyfer gwaith cefndir, mae Somebody yn asiantaeth flaengar sy'n credu mewn rhoi gwaith i actorion.  Nid ydym yn ystyried ein hunain yn rhai sy’n creu gyrfaoedd nac yn feistri arnynt, ond rydym yn credu mewn gweithio ochr yn ochr â'n talent, i fynd â’u gyrfaoedd ar eu llwybr o ddewis.  Bydd Somebody yn gweithio gyda Chyfarwyddwyr Castio i sicrhau ein bod yn adlewyrchu cynrychiolaeth gywir, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n cyfrannu at gymdeithas heddiw.

Jess Harding, Uwch Asiant 

Cafodd Somebody ei lansio ar-lein, gan lansio ei wefan fywiog a'i sianeli cyfryngau cymdeithasol ynghyd â'r hashnod #imwithsomebody.  Gyda swyddfeydd yn Llundain a Chaerdydd, mae gan Somebody y gallu i gynnal clyweliadau ac i Gyfarwyddwr Castio wneud defnydd o’r lle sydd gennym os oes angen.

Am ragor o wybodaeth, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â:

Jess HARDING

Somebody,Uwch Asiant 
Ffôn 02031503635

https://www.withsomebody.co.uk/

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event