Dathlu sinema cryndo amgylchynol (fulldome)
[Caerdydd. 03.03.25] – Mae CULTVR yn falch i gyhoeddi y byddwn yn cynnal Gwobrau Sinema Cryndo Amgylchynol 'Best of Earth' yng Nghaerdydd ym mis Mawrth eleni. Mae'r digwyddiad nodedig yma, a gynhelir bob yn eilflwydd, yn gyfle i gyflwyno a dathlu rhai o'r gweithiau gorau o rai o wyliau ffilm cryndo amgylchynol amlycaf y byd. Mae'n ddathliad rhyngwladol o arloesedd a rhagoriaeth ym maes creu ffilmiau cryndo amgylchynol, ac yn gyfle hefyd i rannu celfyddyd, crefft a'r datblygiadau technolegol sy'n diffinio'r cyfrwng trochol hynod yma.
Mae Gwobrau Sinema Cryndo Amgylchynol Best of Earth yn ffrwyth cydweithio unigryw rhwng rhai o wyliau amlycaf y diwydiant, gan gynnwys FullDome Festival (Jena, Yr Almaen), Dome Fest West (Los Angeles, UDA), Fulldome UK Festival (DU), Dome Under Festival (Melbourne, Awstralia), SAT Fest (Montréal, Canada) a Fulldome Festival Brno (Brno, Tsiecia).
"Mae Gwobrau Best of Earth yn cynrychioli undod digyffelyb y gymuned cryndo amgylchynol," meddai Ryan Moore, Cyfarwyddwr Gweithredol gŵyl Dome Fest West. "Drwy ddod â gwyliau cryndo amgylchynol mwyaf blaenllaw'r byd at ei gilydd, rydyn ni'n gwneud mwy na dim ond dangos ffilmiau - rydyn ni'n creu llwyfan rhyngwladol sy'n dyrchafu'r cyfrwng cyfan a dathlu'r storïwyr arloesol sy'n gwthio ei ffiniau."
Yn 2021 a 2023 cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal ym Mhlanetariwm Stiftung yn Berlin. Yn 2025, bydd yn cael ei chynnal yn Labordy CULTVR yng Nghaerdydd - ar 25 Mawrth am 8pm. Yn ogystal, mewn partneriaeth â'r holl wyliau cryndo amgylchynol rhyngwladol sy'n cymryd rhan, bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio'n fyw.
Cyn y seremoni wobrwyo, bydd cyfle i brofi detholiad o'r ffilmiau cryndo amgylchynol trochol a enwebwyd mewn pedwar digwyddiad sgrinio arbennig yn Labordy CULTVR. Bydd hwn yn gyfle unigryw i brofi rhai o'r ffilmiau cryndo amgylchynol gorau a gynhyrchwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r sesiynau sgrinio hyn yn gyfle prin i brofi ffilmiau cryndo amgylchynol sydd ddim fel arfer ar gael yn y Deyrnas Unedig. Bydd cyfle i'r gynulleidfa archwilio eangderau dirgel y ddaear a'r gofod a phrofi gweithiau artistig blaengar - y cyfan drwy gyfrwng sinematig trochol.
CULTVR yw'r unig ganolfan yn y byd sy'n cyflwyno'r sgriniadau arbennig hyn cyn Seremoni Gwobrau Sinema Cryndo Amgylchynol Best of Earth. Mae'r seremoni'n garreg filltir nodedig i'r diwydiant sinema trochol a bydd yn gyfle i ddod â gwneuthurwyr ffilm, gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a phobl sy'n frwdfrydig am gyfryngau trochol at ei gilydd i ddathlu rhagoriaeth ym maes adrodd straeon cryndo amgylchynol.
Manylion y Digwyddiad - Y Seremoni a'r Sgriniadau:
- Ble: Labordy CULTVR
- Dyddiad: 25 Mawrth 2025
- Amser: 8pm
- Mynediad: Am ddim - mwy o wybodaeth YMA
- Sgrinio'r Ffilmiau a enwebwyd: 15 a 22 Mawrth 2025. Mwy o wybodaeth YMA
"Dim ond dechrau pethau yw hyn - dyna sydd i'w weld mewn digwyddiadau fel Gwobrau Best of Earth," meddai Moore. "Mae sinema cryndo amgylchynol yn esblygu'n gyflym, gan gyfuno technoleg flaengar a chrefft storïol feistrolgar. Mae'r ffilmiau sy'n cael eu hanrhydeddu'n fwy na dim ond ffilmiau - maent yn gipolwg ar ddyfodol adloniant trochol ac yn gosod safonnau newydd ar gyfer yr hyn sy'n bosib yn y cyfrwng hwn."
Tu hwnt i'r sgriniadau a'r gwobrau, mae Labordy CULTVR yn ymroi i feithrin sgyrsiau am ddyfodol cyfryngau trochol. Bydd cyfle i'r rheini sy'n mynychu'r digwyddiad rwydweithio gyda chyd-ymarferwyr a phobl sy'n frwdfrydig am y maes, cael mewnwelediad i dueddiadau diweddaraf sinema cryndo amgylchynol ac archwilio posibiliadau'r cyfrwng hwn sy'n tyfu a datblygu drwy'r amser.
Ymholiadau'r cyfryngau - cysylltwch â:
info@cultvrlab.com
Labordy CULTVR
Mae Labordy CULTVR yn ymroi i wthio ffiniau cyfryngau trochol a sinema cryndo amgylchynol drwy ddarparu llwyfan ar gyfer arloesedd artistig, ymchwilio ac anturio technolegol ac ymgysylltu cymunedol.
Drwy gydweithio â sefydliadau a chrewyr rhyngwladol, mae CULTVR yn parhau i wthio ffiniau dulliau trochol o adrodd straeon. Drwy ein cenhadaeth i greu profiadau trochol ac ystyrlon, a'n hymroddiad i'r genhedlaeth nesaf o fynegiant sinematig mae Labordy CULTVR ar flaen y gad.