LABORDY CELF: Celf Ymwrthedd Gwrthficrobaidd

Mae gwrthsefyll ymwrthedd gwrthficrobaidd yn gofyn am atebion creadigol!

 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 16 November 2021

Rhoddwyd cyllid i ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd gynnal astudiaeth beilot ar ddefnyddio digwyddiadau celfyddydol a ffilm i gyfleu a chodi ymwybyddiaeth o faterion pwysig ym maes gwyddoniaeth. Mewn partneriaeth â Chaerdydd Creadigol, hoffai'r ymchwilwyr gomisiynu pum ymarferydd creadigol i gynhyrchu darn o waith yr un sy'n archwilio thema ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR).

Beth rydym ni’n chwilio amdano?

Hoffem weithio gyda chi i ddatblygu darnau o waith celf sy'n archwilio problem amlochrog AMR. Efallai y byddwch am ystyried y canlynol:

  • Sut mae micro-organebau'n datblygu AMR?

  • Sut mae gweithgareddau dynol wedi cyfrannu at AMR?

  • Pa asiantau gwrthficrobaidd newydd sy'n cael eu datblygu?

  • Sut gallwn ddefnyddio llai o wrthficrobau a hyrwyddo stiwardiaeth wrthficrobaidd?

  • Sut bydd AMR yn effeithio ar gymdeithas os na fyddwn yn gweithredu?

Enghreifftiau yw'r rhain, felly peidiwch â gadael iddyn nhw gyfyngu ar eich dychymyg. Os ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth bellach, mae Anna Dumitriu yn arbenigo mewn BioGelf ac mae ei gwaith yn aml yn archwilio pynciau microbioleg cymhleth. Hefyd, mae Casgliad Wellcome yn cynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd sy'n cysylltu gwyddoniaeth, meddygaeth, bywyd a chelf.

ART LAB call out visual

Bydd y gwaith yn cael ei arddangos fel rhan o’r 'LABORDY CELF: Celf Ymwrthedd Gwrthficrobaidd’ yn Chapter yn ystod Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd ym mis Chwefror 2022. Bydd y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac mae dwy elfen iddo:

  • Arddangosfa gelf ar thema AMR a microbioleg sy'n arddangos y pum darn a gomisiynwyd a gwaith celf dethol o gystadleuaeth celf gyhoeddus, a
  • Dangosiad o raglen ddogfen ar bwnc AMR, yna trafodaeth banel lle gall y gynulleidfa ofyn cwestiynau i ddilyn.

Trwy gyfuno’r celfyddydau a gwyddoniaeth, ein gobaith yw cyflwyno digwyddiad sy'n gwneud i bobl feddwl ond sy'n hygyrch iawn ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o AMR.

Mae gennym gyllideb o £500 i bob ymarferydd, sy’n cynnwys ffi, deunyddiau a threuliau. Byddwn yn darparu cymorth ychwanegol (e.e. mynediad) lle bo’r angen er mwyn i chi allu cymryd rhan yn y cyfle hwn.

Mae'r prosiect hwn yn agored i ymarferwyr creadigol hunangyflogedig yn unig.

I gael rhagor o wybodaeth am AMR, proses y project ac amserlenni a sut i wneud cais, darllenwch y PDF sydd wedi’i atodi isod neu gwrandewch ar y daflen sain:

Creative Cardiff | Caerdydd Creadigol · ART LAB Call Out Audio Flyer

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am AMR, byddwn yn cynnal sesiwn friffio drwy Zoom ar 26 Tachwedd, rhwng 12:00 a 13:00. Yn ystod y sesiwn hon, bydd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn rhannu cyflwyniad byr am AMR ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Nid yw'r sesiwn hon yn orfodol ond os oes gennych ddiddordeb ynddi, cofrestrwch yma.

Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i llenwi ac enghreifftiau o'ch gwaith blaenorol at weiserr@cardiff.ac.uk.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event