Dewch o hyd i'r disgrifiad clywedol isod a chliciwch CC ar y fideo er mwyn dewis isdeitlau Cymraeg neu Saesneg.
Mae’r prosiect hwn yn adrodd fy stori ddiwylliannol bersonol i am Gaerdydd yn y ffordd orau y gallwn, drwy ganeuon Cymraeg, gyda’r lleoliadau eiconig sydd wedi bod yn rhan o’m gyrfa yn y cefndir. Nathan James Dearden, y cyfansoddwr ifanc a thalentog a addysgwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n gyfrifol am y trefniant lleisiol a phiano. Paula Fan sy’n chwarae’r piano.
Roedd mynd i’r capel yn rhan bwysig o’m mywyd cynnar, felly mae’n briodol mai yng nghapel lleol Stiwdio Acapela y recordiwyd y sain a’r fideo. Hefyd, buom ar leoliad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Neuadd Dewi Sant, yr Eglwys Norwyaidd, y Theatr Newydd, Amgueddfa Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Chastell Caerdydd, sydd i gyd yn fannau arbennig lle rwyf wedi perfformio.
Ymunais â chwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn 1992 ac rwyf wedi perfformio 70 o rolau ar lwyfannau ledled y byd. Yn 1993, cynrychiolais Gymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd. Fel bachgen ysgol cofiaf gyffro’r prawf acwstig yn Neuadd Dewi Sant, gyda gynau yn cael eu tanio yn yr awyr o’r llwyfan. Cofiaf wefr camu ar lwyfan y Theatr Newydd am y tro cyntaf fel unawdydd gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Yn 2004 roeddwn i’n unawdydd gydag Opera Cenedlaethol Cymru yng ngala agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru. Cymraeg yw fy iaith gyntaf a Chaerdydd yw canolbwynt fy mywyd diwylliannol.
Disgrifiad clywedol wedi'i ddarllen gan Jeremy Huw Williams:
I wybod mwy am Jeremy Huw Williams a chrëwyr eraill y prosect Ein Caerdydd creadigol 2020, cliciwch yma.