Inspire Wales a BeTheSpark yn agor ceisiadau Pitch It

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 14 August 2018

Mae Inspire Wales a Creu Sbarc yn cynnig y cyfle i bump entrepreneuriaid gyflwyno eu syniadau busnes i banel o fuddsoddwyr, gyda’r posibilrwydd o ennill i fyny at £50,000.

Mae’r panel o feirniaid, sef arweinwyr busnes mwyaf blaenllaw Cymru, yn cynnig nid yn unig hwb ariannol ond cyngor ac arbenigedd. Bydd gan bob entrepreneur deg munud i gyflwyno ei syniad ac yna cynhelir sesiwn holi ac ateb gyda’r panel. Ar ôl trafod, bydd y panel yn rhoi adborth arbenigol ac yn gwneud penderfyniad ynglŷn y buddsoddiad yn fyw.

Cafodd ‘Pitch It’ ei dreialu gan Inspire Wales - gonsortiwm buddsoddi sydd â’r nod o roi cymorth ariannol a mentora i fusnesau sydd wedi’u sefydlu’n barod a busnesau newydd cyffrous ac uchelgeisiol – a sylwodd fod bwlch yn y farchnad ar gyfer entrepreneuriaid a oedd yn chwilio am rowndiau cychwynnol o fuddsoddiad rhwng £10,000 a £50,000.

Dywedodd Matt Wakerley, Rheolwr y Gronfa, Inspire Wales: “Nod Inspire Wales yw ei gwneud hi’n haws i fusnesau bach a chanolig gael gafael ar fuddsoddiad. Entrepreneuriaeth wedi’i hysgogi gan arloesedd sydd wrth wraidd ein cronfa ac mae ‘Pitch It’ yn ffordd unigryw a chyffrous o gefnogi busnesau bach a chanolig i dyfu’n gynt yng Nghymru.

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni ar flaen y gad gyda’r digwyddiad hwn a thrwy arwain, gallwn barhau i feithrin gweledigaeth Creu Sbarc o greu ecosystem entrepreneuraidd fwy gweladwy, syml a chysylltiedig yng Nghymru i bawb. Gobeithio mai'r digwyddiad yma fydd y cyntaf o lawer.”

Mae trefnwyr yn dweud bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cipolwg i ni ar weledigaeth Creu Sbarc gan y bydd yn denu pobl a sefydliadau o dri o blith pum grŵp rhandaliad Creu Sbarc - y byd academaidd, cyfalaf risg ac entrepreneuriaid.

Oes gan eich syniad chi botensial? Beth am gyflwyno eich cais drwy anfon tudalen am eich busnes at hello@bethespark.info erbyn 10fed o Fedi.

Mae ‘Pitch It’ yn digwydd ar ddydd Iau Hydref 17 ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event