Ian Cooke-Tapia

Stori am natur gadarnhaol lleoedd yw Encounters, a’r hyn a all ysbrydoli pobl, a sut y gall pob darn o gelf gysylltu pobl mewn ffyrdd anhygoel.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 24 September 2020

Mae gan bob dinas leoedd sy’n dwyn pobl ynghyd, lle bydd pobl ddieithr, am gyfnod byr, yn rhannu rhywbeth yn gyffredin, hyd yn oed os na fyddant byth yn gweld ei gilydd eto. Mae lleoliadau o’r fath yn aml yn dod â ffrindiau at ei gilydd, yn creu perthnasoedd newydd, neu’n tanio syniadau newydd. 

Mae Caerdydd yn llawn lleoliadau fel hyn. Mae rhai yn adnabyddus, gydag enwau ac enwogrwydd; mae eraill yn dawel, lle deuir ar eu traws yn fwy drwy gyfarwyddiadau nag enw ar fap. Eto i gyd, gall pob lleoliad greu cysylltiadau, mewn ffordd gudd ac amlwg, ond yn unigryw bob tro. 

Yr ymdeimlad hwn o le a ddathlwn yn ein stori ryngweithiol Encounters. Dilynwn ddau artist sydd wedi diflasu ac sy’n penderfynu ymweld ag un o leoliadau eiconig Caerdydd. Mae bod allan yn yr awyr agored fel hyn yn eu rhoi ar ben ffordd creadigrwydd, egni a chyfle wrth iddynt ddechrau rhannu eu gwaith â’r byd, mewn mannau sy’n eu tywys ar hyd llwybrau newydd sbon. 

Stori am natur gadarnhaol lleoedd yw Encounters, a’r hyn a all ysbrydoli pobl, a sut y gall pob darn o gelf gysylltu pobl mewn ffyrdd anhygoel. Mae hefyd yn fetanaratif am sut y gall stori o’r fath ond cael ei hadrodd drwy’r rhwydweithiau sydd wedi cael eu creu; heb y fath gysylltiadau ni fyddai Encounters byth wedi digwydd. 

Disgrifiad clywedol wedi'i ddarllen gan Ian Cooke-Tapia:

I wybod mwy am Ian Cooke-Tapia a chrëwyr eraill y prosect Ein Caerdydd creadigol 2020, cliciwch yma.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event