Ydych chi’n gweithio yn y diwydiant teledu a ffilm neu’n meddu ar ddealltwriaeth dda ohono neu sector creadigol cysylltiedig?
Ydych chi’n empathetig?
Ydych chi’n angerddol am gefnogi eraill?
Ydych chi’n gyfryngwr da?
Ydych chi am fod yn rhan o’r symudiad tuag at ddiwydiant teledu a ffilm hapusach a iachach?
Os felly, rydym yn recriwtio 6 hwylusydd lles llawrydd newydd ac efallai bod y rôl hon ar eich cyfer chi, darllenwch ymlaen
Partneriaeth a Rôl HLl Cymru
Yn dilyn peilot llwyddiannus yn y diwydiant sgrin yn 2022/23, mae 6ft From the Spotlight (6FFS) a CULT Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr, Cymru Greadigol a sefydliadau eraill i barhau i weithredu’r rôl newydd gyffrous hon o Hwylusydd Lles Llawrydd (HLl) ym maes sgrin ac yn edrych ar opsiynau ar gyfer cymhwyso’r rôl i’r sector greadigol ehangach gan gynnwys cerddoriaeth a digwyddiadau byw.
Rydym yn chwilio am chwe unigolyn sy’n angerddol am iechyd meddwl ac sydd am greu amgylchedd gwaith mwy cyfartal a chadarnhaol i hyfforddi fel HLl. Mae arnom angen ystod amrywiol o HLl Llawrydd i ymuno â’n tîm ac mae’r rhain yn cynnwys unigolion o gefndiroedd Mwyafrif Byd-eang, gwrywod, pobl anabl, y rhai sy’n adnabod fel Lesbiaidd, Hoyw, Deunrwyiol a Thraws (LHDH) a siaradwyr Cymraeg.
Sut i Wneud Cais?
Cwblhewch y ffurflen gais yn y ddolen isod ac anfonwch eich CV at: cultcymru@bectu.org.uk (Sicrhewch eich bod wedi darllen y Disgrifiad Swydd manwl a Manyleb y Person isod cyn gwneud cais).
(Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r rôl, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad uchod).
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 14.06.23 @ 12:00
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau: 19.06.23
Hyfforddiant Modiwlaidd: Dechrau mis Gorffennaf.
Dyddiad cau: 14/06/2023
CAISWCH YMA - https://cult.cymru/cy/cais-hwylusydd-lles/