Rydym yn chwilio am Hwylusydd Lles medrus i gyflwyno rhaglen o weithdai a chynnig cymorth ychwanegol i’n cyfranogwyr cymunedol yn ystod Gorffennaf ac Awst. Yn ddelfrydol, bydd y gweithdai yn ymdrin ag ystod o strategaethau ac ymarferion i hyrwyddo lles ymhlith ein cast cymunedol a helpu i'w paratoi ar gyfer perfformio.
Bydd yr Hwylusydd Lles hefyd wrth law yn ystod yr ymarferion terfynol, ar yr wythnos sy’n dechrau ar Awst 14eg, a’r diwrnodau perfformio, i roi cymorth ychwanegol i unrhyw un sy’n ymwneud â’r cynhyrchiad a fyddai’n elwa o’r gefnogaeth.
Efallai bod gennych chi gefndir mewn therapi celfyddydol, yn gweithio’n benodol ym maes lles, neu’n ymarferydd theatr sydd wedi datblygu’r sgiliau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon. Bydd y rhaglen a'r dull o weithredu yn cael eu trafod a'u dyfeisio gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.
Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio gyda phlant ac oedolion bregus ac felly bydd angen i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o Dystysgrif DBS diweddar.
Rydym am ychwanegu at amrywiaeth ein gweithlu ac felly byddem yn croesawu’n arbennig geisiadau gan gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein tîm ar hyn o bryd. Mae ein hadeilad yn hygyrch ym Mlaen y Tŷ a chefn llwyfan.
I gael pecyn cais Cymraeg neu Saesneg, ewch i www.shermantheatre.co.uk/swyddi.
Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.